Coed Manor - gweithrediadau coedwig

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Pa waith fydd yn digwydd?

Dros yr wythnosau nesaf, disgwylir i weithrediadau coedwig ddechrau yng Nghoed Manor ger Trefynwy, a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.

Rydym yn cwympo coed llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd.

Bydd yr ardal yn cael ei hailstocio â choed llydanddail brodorol i helpu i'w hadfer yn goetir hynafol.

Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel

Map yn dangos yr ardal waith

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Beth yw Phytophthora ramorum?

Mae Phytophthora ramorum yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill.

Coed llarwydd yw'r prif westeiwr ar gyfer y clefyd yn y DU, a dyna pam y cyfeirir ato'n gyffredin fel clefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch รข ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales

Yn cau 18 Medi 2027

Wedi agor 18 Medi 2026

Ardaloedd

  • Mitchel Troy

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management