Coed Fedw – gweithrediadau cwympo coed llarwydd

Closes 31 May 2024

Opened 14 Sep 2023

Overview

I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.

Pa waith sy'n digwydd?

Bydd gwaith cwympo coed yng Nghoed fedw yn dechrau ym mis Medi i gael gwared ar tua 4,500 o goed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophora ramorum (a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd llarwydd).

Bydd angen gwaredu tua 16 hectar o goed llarwydd a bydd y gwaith yn cymryd tua naw mis.

Beth yw clefyd llarwydd?

Mae clefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd (Chalara) coed ynn

 

Ailblannu

Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn modd cyfrifol a chynaliadwy, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a Safon Ardystio’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Mae Coed Fedw wedi'i ddynodi'n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS). Bydd ein tîm coedwigaeth yn ailstocio'r safle gyda'r nod o adfer y safle yn ôl i goetir hynafol. Byddant yn ailstocio'r safle gydag amrywiaeth o rywogaethau brodorol, gan arwain at goetir gwydn sy'n gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a’r newid yn yr hinsawdd.

Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Give us your views

If you have any questions, please contact: SEForest.operations@naturalresources.wales

Areas

  • Caerleon

Audiences

Interests

  • Forest Management