Cei Goetre - gweithrediadau coedwig
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Pa waith fydd yn digwydd?
Mae gweithrediadau coedwig yn digwydd yng Nghoed Cei Goetre yn Sir Fynwy, a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.
Mae'r conwydd yn y coetir hwn yn cael ei dorri oherwydd ansefydlogrwydd ac oedran y coed. Bydd yr ardal yn cael ei hailstocio â choed llydanddail brodorol i'w helpu i'w hadfer i goetir hynafol.
Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.
Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel
Map yn dangos yr ardal waith
Pam rydyn ni'n clirio coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, os ydynt mewn lleoliad agored ac nad ydynt wedi'u teneuo, fel yr ardal hon yn Fochriw, gallant ddod yn ansefydlog a chael y potensial i syrthio drosodd.
Bydd y gwaith yma’n darparu manteision economaidd i Gymru drwy werthu'r pren, ac yn rhoi cyfle i ailstocio'r ardal i ddechrau'r cylchred eto, gan gloi carbon wrth i'r coed dyfu, a chreu cynefin coedwig newydd.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Cysylltwch รข ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales
Ardaloedd
- Goetre Fawr
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook