Barbadoes - gweithrediadau coedwig

Yn cau 1 Hyd 2026

Wedi agor 1 Hyd 2025

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Pa waith fydd yn digwydd?

Disgwylir i weithrediadau coedwig ynng nghoed Barbadoes ger Abaty Tyndyrn, Dyffryn Gwy, ddechrau yn Hydref 2025 a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.

Rydym yn cwympo coed llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol a gyhoeddwyd ar y coed yn y coetir. Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd .

Tra bod hyn yn digwydd, rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i deneuo'r coed conwydd.

Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel

Diweddariadau gwaith
Bydd diweddariadau ar y gwaith yn cael eu postio yma - dewch yn ôl yn fuan.

Map yn dangos yr ardal waith

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam rydyn ni'n teneuo coed?

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd

Beth yw Phytophthora ramorum?

Mae Phytophthora ramorum yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill.

Coed llarwydd yw'r prif westeiwr ar gyfer y clefyd yn y DU, a dyna pam y cyfeirir ato'n gyffredin fel clefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch รข ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • St. Arvans

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management