Barbadoes - gweithrediadau coedwig
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Pa waith fydd yn digwydd?
Disgwylir i weithrediadau coedwig ynng nghoed Barbadoes ger Abaty Tyndyrn, Dyffryn Gwy, ddechrau yn Hydref 2025 a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.
Rydym yn cwympo coed llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol a gyhoeddwyd ar y coed yn y coetir. Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd .
Tra bod hyn yn digwydd, rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i deneuo'r coed conwydd.
Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.
Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel
Diweddariadau gwaith
Bydd diweddariadau ar y gwaith yn cael eu postio yma - dewch yn ôl yn fuan.
Map yn dangos yr ardal waith
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Beth yw Phytophthora ramorum?
Mae Phytophthora ramorum yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill.
Coed llarwydd yw'r prif westeiwr ar gyfer y clefyd yn y DU, a dyna pam y cyfeirir ato'n gyffredin fel clefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.
Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn
Cysylltwch รข ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales
Ardaloedd
- St. Arvans
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook