Rheoli perygl llifogydd yn Ynysybwl
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
DIWEDDARIAD 23/06/25: cyhoeddiad yr Achos Busnes Amlinellol yn yr adran Diweddariadau Prosiect isod.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i leihau'r perygl o lifogydd yn Ynysybwl.
Cafodd Ynysybwl ei heffeithio'n wael yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan lifogwyd 17 eiddo ar Clydach Terrace wrth i lefel yr afon godi uwchben wal y briffordd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i ymgymryd â phroses Achos Busnes llawn yn dilyn Canllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Diweddariadau Prosiect
23 Mehefin 2025 - cyhoeddiad yr Achos Busnes Amlinellol
Rydym wedi cwblhau Achos Busnes Amlinellol i ystyried a allai cynllun rheoli perygl llifogydd leihau’r perygl o lifogydd o Nant Clydach i gartrefi ar hyd Teras Clydach yn Ynys-y-bwl.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar asesiadau blaenorol ac yn cynnwys gwaith modelu manwl, astudiaethau amgylcheddol ac ymgysylltu â thrigolion. Mae’r Achos Busnes Amlinellol yn ystyried yr opsiynau posibl, eu costau a’u manteision posibl, ac yn ystyried a allai cynllun fodloni’r gofynion technegol a chyllidol y mae eu hangen er mwyn symud ymlaen.
Darllenwch yr Achos Busnes Amlinellol (Saesneg yn unig).
Beth gafodd ei ystyried
Dilynodd yr Achos Busnes Amlinellol hwn ganllawiau Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru ar gyfer dadansoddi’r opsiynau posibl ar gyfer rheoli perygl llifogydd er mwyn lleihau’r perygl o Nant Clydach.
Mae ein hasesiad yn dangos:
- Mai cyfyngedig yw’r amddiffyniad y mae’r wal bresennol gerllaw Nant Clydach yn ei gynnig.
- Y gallai llifogydd ddigwydd heb fawr o rybudd, gyda’r llif ar ei anterth dim ond tair awr ar ôl glaw trwm.
- Wrth i newid hinsawdd fynd rhagddo, bydd y perygl hwn yn cynyddu’n sylweddol, a rhagwelir y bydd llifogydd sylweddol yn digwydd bob yn ail flwyddyn yn y tymor hir os na chymerir unrhyw gamau.
Edrychwyd yn fanwl ar amrywiaeth o fesurau posibl a dewiswyd dau brif opsiwn ar gyfer y rhestr fer:
- Wal amddiffyn uwch – gan ddisodli wal bresennol y briffordd gyda strwythur peirianyddol talach a mwy sylweddol.
- Prynu trwy gytundeb – prynu’r eiddo sy’n wynebu’r perygl mwyaf er mwyn eu dymchwel, gan eu tynnu o’r gorlifdir i bob pwrpas.
Beth ganfu’r asesiad
Er bod angen amlwg gan y gymuned, nid yw’r naill opsiwn na’r llall yn agos at fod yn economaidd hyfyw o dan reolau cyllido Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru at ddibenion rheoli perygl llifogydd, rheolau y mae’n rhaid i ni eu dilyn.
Byddai angen i’r wal amddiffyn arfaethedig amrywio ar ei hyd rhwng 3.5 metr a 4.5 metr uwchlaw lefel y ffordd er mwyn cynnig lefel dda o amddiffyniad. Byddai effaith weledol hyn yn sylweddol a byddai risg o hyd y gallai llifogydd godi’n uwch na lefel y wal yn y dyfodol, neu y gallai fod llifogydd trychinebus yn y gymuned pe bai’r wal yn methu rhyw ddydd. Mae'r gost a amcangyfrifir ar gyfer cyflawni'r cynllun hwn yn anffodus yn llawer mwy na'r manteision economaidd o faint sylweddol.
Mae'r asesiad hefyd yn cadarnhau nad yw prynu'r eiddo sy'n wynebu'r perygl mwyaf yn gost-effeithiol i fod yn gymwys i dderbyn cyllid Cymorth Grant Amddiffyn rhag Llifogydd gan Lywodraeth Cymru.
Fe wnaethom archwilio’r holl newidiadau posibl i’r dyluniad a’r holl ddeunyddiau posib er mwyn ceisio gostwng y costau, ond nid oes yr un o’r opsiynau’n bodloni’r profion economaidd y mae eu hangen er mwyn symud ymlaen i’r cam nesaf o gyllido.
Dydyn ni ddim yn troi ein cefnau
Mae’r perygl llifogydd yno o hyd, ac rydym yn deall y gofid y gall hyn ei achosi. Er bod y Cynllun Busnes Amlinellol yn dod i’r casgliad na ellir bwrw ymlaen â chynllun llifogydd llawn ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn bwriadu troi ein cefnau ar y gymuned hon.
Mae yna gamau pwysig y mae angen eu cymryd o hyd:
- Grŵp Cymunedol Gweithredu ar Lifogydd: Byddwn yn dal ati i gefnogi’r Grŵp Cymunedol Gweithredu ar Lifogydd ac yn mynychu Cyfarfodydd Aml-Asiantaeth gyda nhw.
- Parhau i weithio ar y cyd: Rydym yn gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a phartneriaid eraill i archwilio opsiynau i reoli perygl llifogydd.
Y camau nesaf
Rydym yn deall bod byw o dan y bygythiad cyson hwn yn effeithio’n ddirfawr ar drigolion ac nad dyma oedd y canlyniad yr oedd unrhyw un yn gobeithio amdano. Ond rydym wedi ymroi o hyd i gefnogi’r gymuned, ochr yn ochr â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, er mwyn penderfynu ar y ffordd fwyaf realistig a chynaliadwy ymlaen. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r gymuned cyn gynted ag y byddwn yn gwybod mwy.
18 Gorffennaf 2024 - cyhoeddiad yr Achos Amlinellol Strategol
Dyma'r Achos Amlinellol Strategol, sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyllid i symud ymlaen i'r cam Achos Busnes Amlinellol.
8 Mawrth 2024
Mae Arup wedi cynhyrchu'r adroddiadau canlynol ar gyfer y prosiect:
30 Tachwedd 2023
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 30 Tachwedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol am y prosiect.
Perygl llifogydd
Mae Clydach Terrace yn gorwedd ar y gorlifdir naturiol mewn rhan gyfyngedig iawn o'r dyffryn ac yn hanesyddol mae wedi dioddef o lifogydd difrifol.
Mae gan y gymuned risg llifogydd unigryw oherwydd ei safle. Pan fydd yn gorlifo, mae'n gwneud hynny'n gyflym ac i ddyfnder mawr, sy'n golygu bod risg i fywyd.
Ar hyn o bryd nid oes amddiffynfeydd llifogydd yn Ynysybwl, er ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd i reoli'r perygl o lifogydd.
Rydym wedi cael gwared â mwy na 700 tunnell o ddeunydd o’r afon ger Clydach Terrace ers 2020.
Opsiynau i reoli'r perygl
Yn dilyn Storm Dennis, gwnaethom asesiad cychwynnol i ddeall yn well y perygl o lifogydd yn Clydach Terrace gan ddefnyddio model glawiad a llif.
Rydym wedi nodi ystod o fesurau i reoli'r risg. Rydym am ddefnyddio'r cyfoeth o wybodaeth sydd gan y gymuned leol am hanes llifogydd i ddatblygu ac arfarnu pob opsiwn ar gyfer ei fanteision a'i risgiau, gan ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost pob un.
Bydd llawer o'r opsiynau yn cynnwys adeiladu asedau rheoli perygl llifogydd, ond byddwn hefyd yn edrych ar opsiynau a chyfuniadau eraill. Bydd y penderfyniad ynghylch pa opsiwn fydd yn cael ei ddatblygu, yn seiliedig ar lu o wahanol feini prawf, ac yn y bôn bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Camau y prosiect
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno fesul cam a bydd yn dilyn proses arfarnu a gwerthuso Trysorlys EM.
Bydd y cam cyntaf yn nodi rhestr hir o opsiynau. Byddwn yn gwerthuso buddion a risgiau pob un drwy ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost.
Bydd angen i ni hefyd werthuso'r opsiynau o wneud dim a chynnal y lefel bresennol o reoli perygl llifogydd drwy ein rhaglen cynnal a chadw.
Bydd yr holl opsiynau hyfyw ar y rhestr fer yn ncael eu craffu ymhellach yn ystod y cam achos busnes amlinellol.
Os yw'n hyfyw, byddwn yn argymell opsiwn a ffefrir ac yn gofyn am adborth gan y gymuned leol. Os cytunir arno, argymhellir ei gyflwyno o fewn ein hachos busnes llawn.
Llinell Amser y Prosiect
Ein nod yw ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol pob cam o'r prosiect.
- Gaeaf 2023 – Gwanwyn 2024: Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru (rhestr hir o opsiynau)
- Gwanwyn 2024 – 2025: Paratoi a chyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru (rhestr fer o opsiynau)
- 2025 – 2026: Paratoi a chyflwyno Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru (opsiwn a argymhellir ar gyfer cyflwyno)
- 2026 – 2028: Adeiladu neu Gyflenwi opsiwn dethol
- 2029: Rhagwelir y bydd y prosiect yn cau
Ardaloedd
- Ynysybwl
Cynulleidfaoedd
- Llifogydd
Diddordebau
- Llifogydd
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook