Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn nalgylch Tregatwg

Yn cau 5 Meh 2027

Wedi'i agor 10 Medi 2024

Trosolwg

Rydym yn archwilio opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd yn Eastbrook a Dinas Powys.

Cefndir

Mae cyfnodau o law trwm dros y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu problem llifogydd yn Ninas Powys. Mewn cyfnodau o law trwm, mae sianeli'r afon, draeniau dŵr wyneb a charthffosydd dŵr wyneb yn cael eu llethu, gan achosi llifogydd ar ffyrdd ac mewn gerddi a chartrefi. 

Un o'n rolau yw gweld beth y gellir ei wneud i leihau'r risgiau, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, sy'n debygol o gynyddu'r perygl o lifogydd wrth i amser fynd yn ei flaen.

Hanes o lifogydd

Mae gan Afon Tregatwg ac East Brook hanes hir o lifogydd yn y pentrefi. Mae cofnodion sy'n dyddio'n ôl i 1903 yn dangos sawl achos o lifogydd, gan gynnwys ar St Cadoc's Avenue, Greenfield Avenue, Elm Grove Place a Heol Caerdydd.

Roedd y llifogydd sylweddol diwethaf ar 23 Rhagfyr 2020. Ar ôl cyfnod dwys o law, cododd lefelau dŵr yn gyflym gan arwain at lifogydd mewn 98 eiddo.  Mae llawer o ddigwyddiadau wedi bod lle bu ond y dim i ni weld llifogydd pan mae’r afon wedi bod yn uchel iawn ond heb achosi llifogydd yn y pen draw.

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd mwy eithafol ac yn rhoi mwy o bwysau ar yr amddiffynfeydd llifogydd, afonydd a systemau draenio presennol. Wrth i'n hinsawdd barhau i newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, a rhagwelir y bydd hyn yn arwain at lifogydd amlach a mwy dinistriol. Mae astudiaethau'n rhagweld y gallai nifer yr eiddo sydd mewn perygl mawr o lifogydd ddyblu dros y 100 mlynedd nesaf.

Rydym wedi archwilio gwahanol opsiynau rheoli perygl llifogydd.  Yn 2021, cyhoeddwyd yr Achos Busnes Amlinellol yn canolbwyntio ar ardal storio llifddwr ger Cwm George, rhwng Casehill Wood a Hales Wood. Cafodd yr opsiwn hwn gryn wrthwynebiad gan y cyhoedd oherwydd ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol. Gan gydnabod hyn, penderfynon ni beidio â bwrw ymlaen â'r opsiwn hwn.  Felly, mae dulliau amgen o liniaru llifogydd bellach yn cael eu harchwilio.

Trosolwg o’r Prosiect

Rydym bellach yn archwilio opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd i bobl, eiddo a seilwaith yn East Brook a Dinas Powys, heb gael effaith andwyol ar gymunedau i lawr yr afon.

Mae hyn yn cynnwys ystyried defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli llifogydd ac atebion peirianyddol ar raddfa fach o fewn dalgylch Afon Tregatwg gan gynnwys ei llednentydd (East Brook, Cold Brook, Wrinstone Brook, Bullcroft Brook), gan ystyried adborth blaenorol ar ôl ymgynghori â'r gymuned a rhanddeiliaid eraill.

Mae gennym gyllid gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ymarferoldeb gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol “a Mwy” (NFM+). Ein nod yw integreiddio hyn gyda helpu natur i wella trwy Adfer Afon o'r dalgylch Afon Tregateg.

Beth yw Rheoli Llifogydd yn Naturiol a Mwy?

Rheoli Llifogydd yn Naturiol yw pan ddefnyddir prosesau naturiol i leihau'r perygl o lifogydd drwy adfer troeon mewn afonydd, newid cyflymder llif y dŵr mewn afonydd a'r ffordd y caiff tir ei reoli fel y gall pridd amsugno mwy o ddŵr. 

Nid yw'n cynnwys defnyddio seilwaith amddiffyn rhag llifogydd traddodiadol fel rhwystrau neu argaeau.

I gael mwy o wybodaeth am Reoli Llifogydd yn Naturiol, dilynwch y dolenni hyn:

Yn ogystal â Rheoli Llifogydd yn Naturiol, efallai y bydd atebion peirianyddol ar raddfa fach a all weithio ochr yn ochr â phrosesau naturiol i helpu i fynd i'r afael â phroblemau llifogydd.

Mae dulliau eraill yn cynnwys y potensial ar gyfer manteision lleol ychwanegol, fel helpu i adfer a gwella cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr a gwella lles ac iechyd y gymuned leol.

Diagram of NFM plus

Cynnydd hyd yn hyn

  • Creodd ein hymgynghorwyr adroddiad opsiynau â chynllun rhestr fer ar gyfer y dalgylch, gyda chymorth data perygl llifogydd, llif dŵr a thirwedd.
  • Mapio cyfleoedd NFM i nodi'r ymyrraeth fwyaf addas.
  • Ymweliadau safle i wirio gwybodaeth am y tirwedd.
  • Cynhaliodd ymgynghorwyr arbenigol adolygiad cynnal a chadw sianel afon o'r modelu perygl llifogydd gan gynnwys profi sensitifrwydd.
  • Gwefan y prosiect, ymholiad ar-lein, e-bost prosiect a rhif ffôn wedi'i sefydlu.
  • Digwyddiadau ymgysylltu â thirfeddianwyr gan gynnwys gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ym mis Mai 2022 a phresenoldeb yn sioe Pentref Dinas Powys ym mis Medi 2022. Gwyliwch y Gweminar i Thirfeddiannwr ar Reoli Llifogydd a Naturiol a Mwy - Mai 2022.
  • Ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid: dosbarthaid llythyr, wyneb yn wyneb a chyfarfodydd.
  • Presenoldeb rheolaidd yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned a'r Grŵp Gweithredu Llifogydd.
  • Cydweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner.
  • Gweithio gyda Coed Cadw i archwilio gwahanol gyfleoedd NFM ar eu tir yng nghoedwigoedd Case Hill a Chwm George.
  • Ymunodd swyddog NFM pwrpasol, Harriet Bleach, â'r tîm yn 2024 a bydd yn cyfarfod â ffermwyr, tirfeddianwyr a thenantiaid lleol i archwilio cyfleoedd yn y dalgylch.

Cyfleoedd i reoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch Tregatwg

Taflen rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch Tregatwg

Storio dŵr

Gall pyllau, crafiadau, bwndeli a phantiau storio dŵr dros dro, lleihau dŵr sy'n mynd i mewn i afonydd ac arafu llif y dŵr dros y tir.

Pwll dwr

Buddion eraill:

  • dal dŵr yn ystod adegau o sychder
  • cynhyrchiant tir
  • llai o golli pridd
  • iechyd pridd
  • cefnogi rhywogaethau infertebratau a phlanhigion
  • ansawdd dŵr

Malurion pren mawr mewn sianeli afonydd

Mae hyn yn arafu'r llif drwy annog dŵr llifogydd i ollwng dros dro ar y gorlifdir lle bo hynny'n addas.

Malurion pren mawr mewn sianel afon

Buddion eraill:

  • iechyd pridd
  • cynhyrchiant tir
  • amrywiaeth o nodweddion cynefin afonydd
  • bioamrywiaeth
  • gwella strwythur sianel
  • dal gwaddod a gwella ansawdd dŵr

Adfer gorlifdiroedd, gwlyptiroedd ac ystumiau afonydd

Gellir storio llawer iawn o ddŵr ac arafu’r llif drwy ganiatáu i ddŵr llifogydd ollwng dros dro.yn naturiol ar dir.

Gorlifdir

Buddion eraill:

  • iechyd pridd
  • cynhyrchiant tir
  • amrywiaeth o nodweddion cynefin afonydd
  • bioamrywiaeth
  • ansawdd dŵr
  • gwella strwythur sianel
  • yn caniatáu llifogydd mwy naturiol a llai pwerus, gan arwain at sefydlogi glannau afonydd
  • draenio'n ôl i'r afon yn naturiol

Adfer gwrychoedd a choed

Mae hyn yn dal glaw, yna mae’r dŵr yn anweddu o’r dail gan arwai at llai o ddŵr yn cyrraedd y ddaear. Mae hefyd yn helpu pridd i ddal mwy o ddŵr.

A woman planting trees

Buddion eraill:

  • cysgod a lloches ar gyfer anifeiliaid
  • arafu dŵr wyneb
  • dal a ffiltro dŵr ffo, yn atal colli gwrtaith, gwaddod a plaladdwyr
  • iechyd pridd
  • bioamrywiaeth
  • ansawdd dŵr
  • amsugno a storio carbon

Plannu wrth ymyl afonydd ac ar draws llethrau

Gall llwyni, lleiniau clustogi glaswellt, neu goed arafu'r llif, helpu pridd i amsugno mwy o ddŵr, a helpu i sefydlogi glannau afonydd.

Afon gyda choed ar y glannau

Buddion eraill:

  • sefydlogi glannau afonydd
  • llai o erydiad
  • cysgod a lloches ar gyfer anifeiliaid
  • dal a ffiltro dŵr ffo, yn atal colli gwrtaith, gwaddod a plaladdwyr
  • bioamrywiaeth a chynefin
  • ansawdd dŵr
  • amsugno a storio carbon

Rheoli pridd a thir

Rheoli cywasgu pridd, a cylchdroadau cnydau a da byw.

Tractor mewn cae

Buddion eraill:

  • llai o golli pridd
  • iechyd pridd
  • llai o ardaloedd dyfrlawn
  • dal dŵr yn ystod adegau o sychder
  • bioamrywiaeth
  • ansawdd dŵr
  • arafu llif dŵr

Camau nesaf

Mae gweithio'n agos gyda'r gymuned leol, yn enwedig meddianwyr tir ac eiddo, yn allweddol wrth weithredu NFM+ a lleihau perygl llifogydd.

Ar hyn o bryd rydym yn cwrdd â ffermwyr, tirfeddianwyr a thenantiaid lleol i archwilio'r cyfleoedd.

Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y prosiect i chysylltu â ni i rannu eu gwybodaeth lleol, syniadau a phryderon.

 

Cysylltwch â ni

dinas.powys.nfm.plus@grasshopper-comms.co.uk

02920 108716

Ardaloedd

  • Dinas Powys

Cynulleidfaoedd

  • Llifogydd

Diddordebau

  • Llifogydd