Gorsaf Pwmpio Carthion Marlas ac Afon Cynffig

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd parhaus sy'n gysylltiedig â seilwaith yng Ngorsaf Pwmpio Carthion (GPC) Marlas ger Gogledd Corneli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n effeithio ar Afon Cynffig.

Rydym ystyried hyn fel mater difrifol iawn. Mae maint yr effaith amgylcheddol ar Afon Cynffig yn annerbyniol, ac rydym yn llwyr gydnabod y pryder a'r rhwystredigaeth y mae hyn wedi ei hachosi i gymunedau lleol, yn ogystal â'r difrod i fywyd gwyllt a'r amgylchedd ehangach, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd.

Cefndir

Mae GPC Marlas a’i phrif bibell godi gysylltiedig, sy'n ymestyn dros 9km ac a ddefnyddir i gludo carthion i Waith Trin Dŵr Gwastraff Afan, yn cael eu gweithredu gan Dŵr Cymru.

Mae gan GPC Marlas drwydded gollwng ansawdd dŵr (rhif BP0169901), sy'n caniatáu gollyngiadau o'r orsaf bwmpio yn unol ag Amod 2 y drwydded. Mae'r drwydded hon yn caniatáu gollwng carthion storm neu ollwng carthion mewn argyfwng, y naill a’r llall oddi mewn i feini prawf penodol.   

Mae prif bibell godi Marlas, y mae Dŵr Cymru yn gyfrifol amdani, wedi byrstio droeon mewn sawl man ar ei hyd ers mis Awst 2023. Rydym wedi bod yn ymateb i’r byrstiadau hyn a’u monitro, yn ogystal â rheoleiddio trwydded amgylcheddol GPC Marlas.

Yn ystod mis Chwefror 2026, gwaethygodd y sefyllfa pan gafwyd gollyngiad parhaus o GPC Marlas. O ganlyniad i hyn, comisiynodd Dŵr Cymru waith trin carthion dros dro yn GPC Marlas.

Mae'r problemau wedi achosi gollyngiadau parhaus i Afon Cynffig. Ers gosod prif bibell godi dros dro dros y tir ddydd Mawrth, 9 Mehefin 2026, mae'r gollyngiadau parhaus o GPC Marlas ac o’r gwaith trin carthion dros dro wedi peidio.

Beth sy'n cael ei wneud

Mae'r gollyngiadau parhaus wedi cael cryn effaith ar Afon Cynffig i lawr yr afon, gan gynnwys llygredd gweladwy ac arogl.

Rydym yn ystyried y mater hwn yn ddifrifol iawn, ac yn parhau i ymateb, monitro ac ymchwilio i’r digwyddiadau parhaus sy’n gysylltiedig â GPC Marlas. Rydym wedi cynnal ymweliadau safle rheolaidd â'r ardal y mae hyn wedi effeithio arni.

Fel y gweithredwr, mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am gydymffurfio ag amodau ei drwydded amgylcheddol ac am reoli a lliniaru effeithiau'r gollyngiadau parhaus.

Fel y rheoleiddiwr, rydym yn cynnal ymchwiliadau ffurfiol manwl ac yn asesu'r effaith amgylcheddol. Byddwn yn cymryd y camau priodol yn unol â'n Polisi Gorfodi a Sancsiynau.

Yn ystod ein hymchwiliadau ffurfiol ni allwn ddarparu gwybodaeth fanwl, oherwydd gallai datgelu manylion ymchwiliadau yn y cam hwn beryglu unrhyw ganlyniad gorfodi.

Rydym wedi hysbysu Dŵr Cymru ein bod yn disgwyl iddynt wneud gwaith adfer i lanhau’r darnau o Afon Cynffig yr effeithiwyd arnynt, a chreu cynllun i wella’r afon a’i bioamrywiaeth yn y tymor hwy. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf yn yr adran hon.

Dylid rhoi gwybod i ni am amheuaeth o lygredd drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy ffonio 03000 65 3000.

Yn cau 10 Meh 2027

Wedi agor 10 Meh 2026

Ardaloedd

  • Cornelly

Cynulleidfaoedd

  • Water quality

Diddordebau

  • Water quality