Cynllun Llifogydd Pont Elái

Ar gau 25 Medi 2022

Wedi'i agor 25 Medi 2020

Trosolwg

 

Mae’r Afon Elái yn llifo o'r droedfryniau i'r gogledd o Lantrisant, drwy Sain Ffagan, Trelái ac i lawr i Fae Caerdydd ac wedyn i aber afon Hafren.   

Mae'r afon yn pasio o dan Cowbridge Road West o dan bont yr A48. 

Mae hanes o lifogydd yn yr ardal hon. Ym mis Medi 2008, cafodd rhyw 27 eiddo eu llifogi. Yn ei hanterth yn 2008, byddai llif yr afon wedi llenwi pwll nofio Olympaidd bob ugain eiliad! Yn fwy diweddar, mae eiddo wedi eu llifogi yn 2011, 2012 a 2020. Cofnodir llifogydd eang cyn belled â Pharc Fictoria yn 1927 a 1960. 

Mae'r bont A48 yn dueddol o gael ei blocio gan fod malurion yn cael eu dal ar golofn y bont ynghanol yr afon. Mae rhwystrau yn lleihau capasiti'r bont ac yn cynyddu'r perygl o lifogydd i eiddo yn sylweddol, ac roeddent wedi cyfrannu at y llifogydd diweddar. Ni ellir tynnu’r rhwystrau’n ddiogel ar adegau o lif uchel.

An animated image of trees blocking the underside of the Ely Bridge

Mae'r fideo hwn yn dangos enghraifft o gangen fawr yn arnofio i lawr Afon Elai o dan bont Cowbridge Road.

 

 

Y broblem

Mae ein hastudiaethau diweddar wedi dangos bod perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol pan fo pont Cowbridge Road dros yr Afon Elái wedi’i rwystro’n rhannol â malurion, yn enwedig coed a gwrthrychau mawr eraill.

Mae'r bont yn arbennig o sensitif i rwystrau oherwydd y golofn canolog sydd wedi'i sgiwio, a'r cliriad isel uwchlaw'r afon.

Mae rhwystrau yn lleihau capasiti'r bont. At hynny, ar hyn o bryd nid oes ffordd ddiogel i'n gweithwyr gael gwared o rwystrau mawr, yn enwedig ar adegau o lif uchel.

Wrth i lefelau afonydd godi, mae ochr isaf y bont yn dal malurion o dan lefel y dŵr, gan leihau'r gallu i ddŵr lifo o dan y bont. 

Os cedwir y bont yn glir, gall mwy o ddŵr fynd o dan ac i lawr yr afon, gan leihau'r perygl o lifogydd i'r ardal o'i hamgylch.

An animated image showing an underwater view of the trees collecting under the bridge

Y perygl

Aerial map of Ely showing flood extent during a 1 in 100 annual chance event

Ar hyn o bryd, mae digwyddiad â siawns o 1 mewn 30 o brofi bob blwyddyn gyda rhwystr rhannol o Bont Elái yn arwain at lifogydd o tua 40 o eiddo yn yr ardal cyfagos.

Bydd digwyddiad â siawns o 1 mewn 50 o brofi bob blwyddyn gyda rhwystr rhannol o Bont Elái yn arwain at lifogydd o fwy na 200 o eiddo o amgylch y bont a thuag at Barc Fictoria.

Bydd digwyddiad â siawns o 1 mewn 100 o brofi bob blwyddyn gyda rhwystr rhannol o Bont Elái yn arwain at lifogydd o hyd at 500 o eiddo ar draws ardal eang. Mae'r map isod yn dangos hyn.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Yr opsiynau

Rydym wedi cynnal sawl astudiaeth i asesu'r achos o blaid rheoli'r perygl o lifogydd yn yr ardalr. Mae hyn wedi cynnwys arfarnu:

  • opsiynau i arafu'r llif i fyny'r afon;
  • cadw’r llif uchel yn yr afon gyda gwahanol fathau o amddiffynfeydd;
  • mesurau i drosglwyddo llif uchel yr afon drwy ledu sianelau
  • a mesurau gwrthsefyll llifogydd eiddo.

Fel rhan o ddatblygiad Melin Elái, roedd y datblygwr wedi lledu’r sianel a chael gwared ar weddillion cored Arjo Wiggins yn 2017, gan leihau'r perygl llifogydd presennol i fyny'r afon. 

Fodd bynnag, gwelwyd bod mesurau eraill a arfarnwyd yn aneconomaidd a bod y perygl o rwystr i Bont Elai yn parhau.

Y datrysiad

Byddwn yn adeiladu daliwr coed i fyny'r afon o Wroughton Place i ddal coed a malurion mawr eraill cyn iddo gyrraedd Pont Elái.

Rydym yn amcangyrfrif y bydd 490 o eiddo yn cael ll be protected during a 1 in 100 annual chance event with the tree catcher in place.

Amcangyfrifwn y bydd tua 490 eiddo yn cael eu diogelu yn ystod digwyddiad â siawns o 1 mewn 100 o brofi bob blwyddyn gyda'r daliwr coed yn ei le.
 
An animated image of the proposed tree catcher

Sut mae'r daliwr coed yn gweithio?

Mae'r cynllun yn cynnwys saith polyn wedi’u gosod yn eang ar draws yr afon i dargedu malurion mawr a fyddai fel arall wedi'u dal ar y bont.

Wrth i lefelau dŵr godi yn ystod llifogydd, bydd malurion sy'n cael eu dal gan y polion yn arnofio ar wyneb y dŵr, gan ganiatáu i ddŵr basio oddi tano a pharhau i lawr yr afon.

Drwy ddal malurion mewn man diogel i fyny'r afon o Bont Elái, caiff y perygl o lifogydd ei leihau.

Bydd ramp mynediad ac ardal brosesu hefyd yn cael eu hadeiladu er mwyn ei gwneud yn haws i'n gweithwyr gael at y rhwystrau, eu torri yna eu gwaredu. Byddwn yn mynd ati i fonitro’r malurion gan ddefnyddio camera CCTV.

An animated image showing machinery clearing the debris from the tree catcher from the access ramp

Dewiswyd y lleoliad hwn oherwydd ei agosrwydd at y bont, y fynedfa bresennol o'r briffordd ac i osgoi ffynhonnau tynnu dŵr ymhellach i fyny'r afon.

Bydd ffens yn diogelu'r safle, a byddwn yn ei orchuddio â phlanhigion i guddio’r safle o'r llwybr troed a beicio cyfagos.

Y gwaith

Rydym hefyd yn ymgymryd â gwaith i wella mynediad i’r afon ym Mhont Elái os bydd angen cynnal a chadw yno hefyd.

Ar hyn o bryd mae ein contractwr yn gweithio wrth ymyl pont Cowbridge Road i osod ramp mynediad eilaidd at ddibenion cael gwared ar malurion a gwneud gwaith rheoli basle yn y dyfodol.

Bydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau ym mis Hydref.

Ein bwriad yw dychwelyd yng Ngwanwyn 2021 i osod y daliwr coed i'r gogledd o Wroughton Place.

Byddwn yn parhau i gysylltu â phreswylwyr drwy gydol y gwaith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd a sut rydym yn bwriadu lleihau'r anghyfleustra i breswylwyr a phobl sy'n defnyddio'r llwybrau troed a'r amwynderau lleol.

Ardaloedd

  • Ely
  • Fairwater

Cynulleidfaoedd

  • Flooding
  • Llifogydd

Diddordebau

  • Flooding
  • Llifogydd