Arolwg o Waith Adfer Nant Morlais

Ar gau 26 Ion 2024

Wedi'i agor 5 Ion 2024

Trosolwg

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn a’ch canfyddiadau am ddalgylch Nant Morlais yn yr arolwg hwn ar-lein. Rydym yn croesawu eich syniadau ynghylch sut gallwn gefnogi cydnerthedd cymunedol drwy gyfrwng amgylchedd iachach, lleihau perygl llifogydd a sychder a mannau mwy dymunol a gwyrdd.

Nant Morlais

Un o lednentydd Afon Taf yw Nant Morlais. Mae’n llifo am tua 9km o Dir Comin Merthyr, trwy ganol tref Merthyr Tudful ac i mewn i afon Taf gyferbyn â Gorsaf Dân Merthyr Tudful.

Yn anffodus, mae Nant Morlais yn methu o dan ddeddfwriaeth Cymru i fodloni’r safonau a bennir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i annog amgylchedd iach.

Mae gwahanol fathau o bwysau ar yr afon – yn deillio o ardaloedd trefol a defnydd tir. Yn ogystal, mae cynefinoedd dan straen ac mae amhariadau i brosesau afonydd, sy’n golygu bod yr afon yn llai cydnerth yn wyneb hinsawdd sy’n newid.

Y prosiect

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ceisio cyflawni elfennau o Ddatganiad Ardal Canol De Cymru "Gweithio gyda Dŵr".

I gefnogi CNC gyda hyn, mae JBA Consulting yn cynnal ymchwiliad i sut y gallai gwella coridor yr afon a’r prosesau o fewn y sianel fod o fudd i gymuned Merthyr Tudful, gwella cydnerthedd yn wyneb peryglon amgylcheddol fel llifogydd a sychder, a lleihau’r risg yn wyneb hinsawdd sy’n newid.

Map

Map o'r dalgylch

Nodau’r Prosiect

Nod y prosiect hwn yw asesu dalgylch Nant Morlais am gyfleoedd i:
• adfer / efelychu ymatebion mwy naturiol y dalgylch;
• cyflawni datrysiadau i reoli dŵr wyneb, yn enwedig pan fo’n gwneud methiannau o ran ansawdd dŵr yn waeth;
• adfer yr afon o fewn y dirwedd drefol; a
• sicrhau buddion i’r gymuned, codi ymwybyddiaeth ac annog cyfranogiad.

Pam mae eich barn yn bwysig

Mae ymgysylltu a gweithio gyda chymuned Merthyr Tudful yn hanfodol er mwyn penderfynu ar y gwelliannau, eu rhoi ar waith a sicrhau y byddant yn dal i fod yn effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.

Gofynnwn i chi roi rhai munudau i gwblhau ein harolwg trwy ddilyn y ddolen isod.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Rivers
  • Llifogydd
  • Anglers

Diddordebau

  • Flooding
  • Community Voulnteering
  • WFD
  • water framework directive
  • Fishing
  • Biodiversity
  • Engagement