Arolwg prosiect adfer afonydd - Nant y Wedal
Eich barn chi am Nant y Wedal
Mae ymgysylltu a gweithio gyda’r gymuned ym Mharc y Mynydd Bychan yn bwysig i ni ddeall beth mae’r gymuned yn ei werthfawrogi am Nant y Wedal. Rydym am glywed eich barn chi am sut y gellid gwella'r nant. Yn benodol, hoffem ddod o hyd i gyfleoedd i wella'r nant ar gyfer natur ac er mwynhad cymunedol. Rydym am wella'r afon fel nodwedd yn y parc a sicrhau bod y gwaith adfer yn parhau i fod yn effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.
Er nad yw ansawdd dŵr Nant y Wedal yn brif ffocws y prosiect hwn, mae’n destun pryder i ni. Rydym yn croesawu eich barn ar y mater i gefnogi prosiectau yn y dyfodol.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn a’ch safbwyntiau ar Nant y Wedal. Gobeithiwn ddefnyddio’r adborth yn yr arolwg hwn i ddatblygu cyfleoedd adfer ar gyfer amgylchedd iachach a lle gwyrddach.