Arolwg prosiect adfer afonydd - Nant y Wedal
Trosolwg
Cliciwch yma i weld y dudalen hon yn Saesneg.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio gwella cymeriad naturiol afonydd ledled Cymru.
I wneud hyn, rydym yn edrych ar gyfleoedd i gael gwared ar adeileddau o waith dyn sy'n effeithio'n negyddol ar iechyd afonydd. Bydd adfer afonydd o fudd i natur a phobl, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae Nant y Wedal yn un o is-afonydd Nant y Rhath yng Nghaerdydd. Mae'r nant mewn cwlfert (wedi'i chuddio o dan y ddaear) am lawer o'i hyd, ond mae'n llifo'n agored ym Mharc y Mynydd Bychan. Yr ardal hon drwy Barc y Mynydd Bychan yw ffocws y prosiect hwn.
O fewn Parc y Mynydd Bychan, mae'r nant wedi colli ei throadau naturiol (dolennedd) ac mae wedi’i sythu'n artiffisial, fel y dangosir yn y ffotograff isod. Mae’r siâp syth yn cyfyngu ar brosesau afonydd iach, ac mae’r nant wedi colli ei gallu i ffurfio cynefinoedd amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae gan y nant hefyd adeileddau yn y sianel, sy'n achosi sgil-effeithiau i'r nant.
Rydym yn archwilio cyfleoedd i adfer Nant y Wedal ac eisiau rhannu’r syniadau gyda chi i gael adborth ar y farn sydd gan y gymuned lleol am y rhain.
Cliciwch i weld y syniadau ar gyfer gwella'r nant. Gellir gweld y syniadau yn fwy manwl yn yr arolwg ar-lein (dolen isod).
Bydd cytundebau yn cael eu gwneud gyda Cyngor Caerdydd a'r gymuned sy'n defnyddio'r parc cyn symud ymlaen ag unrhyw ran o'r gwaith hwn. Mae’r cyfleoedd a ddangosir yn awgrymiadau ar hyn o bryd i helpu i wella’r cynefin naturiol, adfer yr afon, a rhoi mwy o fwynhad i gymunedau sy’n ymweld â’r cwrs dŵr.
Rhowch eich barn i ni
Ardaloedd
- Heath
Cynulleidfaoedd
- River restoration
- Adfer afonydd
Diddordebau
- River restoration
- Adfer afonydd
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook