Arolwg prosiect adfer afonydd - Afon Dâr
Eich barn chi am Afon Dâr
Mae ymgysylltu a gweithio gyda’r gymuned yn Aberdâr yn bwysig i ni ddeall beth mae’r gymuned yn ei werthfawrogi am afon Dâr.
Rydym am glywed eich barn am sut y gallem wella'r afon. Yn benodol, hoffem ddod o hyd i gyfleoedd i wella'r afon ar gyfer natur ac er mwynhad cymunedol. Rydym am wella'r afon fel nodwedd yn y parc a sicrhau bod y gwaith adfer yn parhau i fod yn effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich meddyliau a'ch safbwyntiau ar afon Dâr a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Gobeithiwn ddefnyddio’r adborth yn yr arolwg hwn i ddatblygu cyfleoedd adfer ar gyfer amgylchedd iachach a lle gwyrddach.