Adfer Nant y Wedal

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i weithio i wella cymeriad naturiol Nant y Wedal ym Mharc y Mynydd Bychan, Caerdydd.

Mae Nant y Wedal yn un o lednentydd Nant Lleucu. Mae llawer o’r nant yn llifo drwy gwlfer o dan y ddaear ond mae'n llifo'n agored ym Mharc y Mynydd Bychan. Y darn hwn drwy Barc y Mynydd Bychan yw ffocws y prosiect hwn.

Gan adeiladu ar adborth a dderbyniwyd yn ystod ein hymgynghoriad ar ddiwedd 2024, rydym bellach yn bwrw ymlaen â cham dylunio nesaf y prosiect adfer.

Yr angen am y prosiect

Ar hyn o bryd mae Nant y Wedal wedi'i addasu’n sylweddol ac mewn cyflwr ecolegol wael, gyda'r nant uchaf wedi creu rhych dwfn ac wedi datgysylltu i raddau helaeth oddi wrth ei gorlifdir. Cafodd y sianel ei sythu gan arwain at ddiffyg nodweddion naturiol fel ystumiau ac ardaloedd dyddodol. Yn y coetir i lawr yr afon, mae glannau noeth a chysgodol yn cyfrannu gwaddod mân i'r nant, tra bod difrod i’r pontydd troed a sathru ar y glannau'n effeithio ar sefydlogrwydd y sianel. Mae sawl strwythur sy'n heneiddio, gan gynnwys pontydd troed, ffos bren, a chwlfer pibell yn amharu ar symudiad naturiol dŵr a gwaddod.

Yr hyn yr ydym am ei gyflawni

Drwy’r prosiect hwn, nod CNC yw:

  • Adfer mwy o brosesau afonol naturiol a gwella cyflwr cyffredinol y cynefinoedd
  • Lleihau erydiad a siltio, gan helpu i amddiffyn seilwaith lleol
  • Creu cynefinoedd gwell ar gyfer pysgod, pryfed a mathau eraill o fywyd gwyllt
  • Cynyddu gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd a thywydd eithafol
  • Gwella coridor yr afon fel man gwyrdd gwerthfawr i'r gymuned

Mae'r dyluniadau rydyn ni'n eu datblygu'n canolbwyntio ar fesurau ymarferol, cynaliadwy sy'n cydbwyso anghenion amgylcheddol â'r ffordd y mae pobl yn defnyddio'r ardal gyfagos.

Beth yw'r opsiynau adfer

Mae'r cynigion adfer ar gyfer Nant y Wedal yn cynnwys

  • Ail-greu ystumiau yn y sianel 
  • Adfer siâp y sianel / ailbroffilio’r glannau
  • Tynnu ac uwchraddio’r bont droed
  • Plannu yn y parth torlannol
  • Creu coetir naturiol
  • Rheoli’r coetir
  • Ychwanegu deunydd coediog yn y sianel
  • Cael gwared ar y ffos bren ac ailbroffilio’r glannau
  • Tynnu'r cwlfer dwbl ac uwchraddio'r bont droed

Gyda phwy rydyn ni'n gweithio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'r prosiect. Mae rhanddeiliaid eraill y prosiect yn cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Dŵr Cymru a grwpiau cymunedol lleol fel Cyfeillion Parc y Mynydd Bychan. Mae'r gwaith dylunio yn cael ei gwblhau gan JBA Consulting, gyda chefnogaeth tîm o ymgyngoreion yn ôl yr angen.

Sut wnaethon ni ddefnyddio eich adborth

Ym mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd ymgynghoriad ar-lein a digwyddiad galw heibio i’r cyhoedd i gasglu barn ar y cysyniadau cychwynnol ar gyfer adfer Nant y Wedal. Cawsom adborth gwerthfawr gan drigolion a grwpiau lleol.

Rydym wedi ystyried yr holl sylwadau yn ofalus wrth i ni ddatblygu'r dyluniad newydd sydd wedi'i ddiweddaru.

Darllenwch Adroddiad Dyluniad Amlinellol Nant y Wedal (Saesneg yn unig), sy'n cynnwys crynodeb o ymatebion yr arolwg.

Trosolwg o’r Dyluniad

Dyluniadau cysyniadol

Pontydd troed – Enghreifftiau o ddyluniadau cysyniadol

Dyma bedair pont droed enghreifftiol y gellid eu defnyddio fel rhan o'r gwaith adfer.

Enghreifftiau o bontydd troed

Ffynhonnell: CTS Bridges | Details, information & images of Steel & Timber Bridges

Ymgynghoriad

Rydym nawr yn barod i rannu'r dyluniad wedi'i ddiweddaru a chasglu barn bellach cyn symud ymlaen i'r cam dylunio terfynol.

Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus:

Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Mawrth

Amser: 3pm – 7pm

Lleoliad: Rheilffordd Fach Parc y Mynydd Bychan (Ystafell Ddarlithio), King George V Drive East, Caerdydd, CF14 4AW.

Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y dyluniad yn fanylach, ateb cwestiynau, a gwrando ar unrhyw adborth pellach.

Amserlen y prosiect

2023/24: Datblygu dyluniad cychwynnol.

Rhagfyr 2024: Ymgynghoriad cyhoeddus ac arolwg ar-lein ar gysyniadau cynnar ar gyfer y gwaith adfer. Casglu adborth gan drigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.

2025 – Dechrau 2026: Datblygu'r dyluniad wedi'i ddiweddaru, gan ymgorffori adborth y cyhoedd.

Mawrth 2026: Ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar y dyluniad wedi'i ddiweddaru.

Gwanwyn–Haf 2026: Mireinio i gyrraedd dyluniad terfynol, cyflwyno unrhyw ganiatâd a chydsyniad gofynnol a pharatoi ar gyfer adeiladu.

2027: Yn amodol ar gymeradwyaethau a chyllid parhaus, bwriedir dechrau’r gwaith adeiladu ac adfer. Cyfathrebu parhaus â thrigolion cyn ac yn ystod y gwaith.

Adrodd am lygredd

Er nad gwella ansawdd dŵr yw prif ffocws y prosiect, rydym yn gwybod ei fod yn bryder pwysig i bobl leol ac i CNC. Mae eich adroddiadau yn ein helpu i nodi problemau'n gyflym a chymryd camau priodol.

Os gwelwch chi unrhyw beth sy'n edrych fel llygredd mewn cwrs dŵr neu’n agos at gwrs dŵr, rhowch wybod amdano unrhyw bryd:

Gallai arwyddion o lygredd i edrych amdanynt gynnwys:

  • Afliwiad anarferol yn y dŵr
  • Arogleuon sydyn neu gryf
  • Pysgod neu fywyd gwyllt marw neu mewn trafferthion
  • Ewyn gormodol, llewyrch tebyg i olew, neu lysnafedd trwchus ar wyneb y dŵr
  • Malurion carthffosiaeth neu ollyngiadau posibl
  • Gostyngiadau sydyn yn lefelau'r dŵr neu ollyngiadau cymylog/llaethog

Os yw'n ddiogel gwneud, rhowch fanylion fel y lleoliad, yr hyn a welsoch, a phryd y digwyddodd. Mae hyn yn ein helpu i ymateb yn fwy effeithiol.

Yn cau 30 Medi 2027

Wedi agor 1 Maw 2026

Ardaloedd

  • Heath

Cynulleidfaoedd

  • River restoration

Diddordebau

  • River restoration