Old Castle Down - Pori er lles bywyd gwyllt
Trosolwg
Old Castle Down
Dynodwyd Old Castle Down yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o achos nifer o nodweddion arbennig, gan gynnwys glaswelltir calchfaen, rhostir calchfaen a rhostir llaith. Mae’r amrywio a geir yn y cymunedau hyn o blanhigion yn adlewyrchu’r newidiadau yng nghynnwys calsiwm carbonad y pridd.
Ar ochr orllewinol y B4265 mae’r glaswelltir calchaidd wedi’i ddominyddu gan beiswellt y defaid (Festuca ovina). Mae’r teim gwyllt Thymus drucei, y cor-rosyn cyffredin (Helianthemum nummularium) a llin y tylwyth teg (Linum catharticum) hefyd yn gyffredin uwchlaw’r llethrau o boptu’r ffordd. Mae cribwellt (Koeleria macrantha), crydwellt (Briza media), yr hesgen Carex disperma, ysgallen Siarl (Carlina vulgaris), clust y llygoden (Pilosella officinarum), bwrned (Sanguisorba minor) a mandon fach (Asperula cynanchica) hefyd yn nodweddiadol o’r cynefinoedd yn y fan hon.
Hefyd ar y llethrau mae ardaloedd helaeth o rostir calchfaen llaith. Yma mae grug croesddail (Erica tetralix), grug y mêl (Erica cinerea) ac eithin mân (Ulex gallii) yn dominyddu ymysg cyfoeth o rywogaethau yn cynnwys tresgl y moch (Potentilla erecta), briwydd felen (Galium verum), a chribau San Ffraid (Stachys officinalis), sy’n debyg i gydgymunedau glaswellt/rhos yn Ne-orllewin Lloegr. Fodd bynnag, gellir gwahaniaethu’r casgliad hwn oddi wrth ei debyg yn Lloegr am fod yma helaethrwydd o laswellt y gweunydd (Molinia caerulea), hesg y chwain (Carex pulicaris), a’r hesg cenedlaethol brin Carex montana. Mae bandiau o eithin Ffrengig (Ulex europaeus) a rhedyn ungoes (Pteridium spp.) wedi cytrefu’r priddoedd dyfnach ar y llethrau.
Ar y llwyfandir a’r llethr uchaf i’r dwyrain o’r B4265, mae’r amodau’n fwy asidig, sy’n creu rhostir llaith. Mae yna debygrwydd clir â’r rhostir calchaidd llaith, er enghraifft presenoldeb amlwg eithin mân a glaswellt y gweunydd, ond mae dwy rywogaeth arall o wair, maeswellt gwrychog (Agrostis curtisii) a maeswellt y cŵn (Agrostis canina), hefyd yn gyffredin iawn yma.
Rhagor o wybodaeth am SoDdGA Old Castle Down a’i nodweddion arbennig (Saesneg yn unig)
I gael rhagor o wybodaeth am y rhywogaethau uchod, ewch i’r tudalennau canlynol ar wefan yr Ymddiriedolaeth Natur:
- Glaswelltydd, hesg a brwyn (Saesneg yn unig)
- Blodau gwyllt (Saesneg yn unig)
Y Fritheg Frown
Mae Old Castle Down hefyd yn cynnig cynefin i amryw infertebratau, gan gynnwys y Fritheg Frown (Fabriciana adippe), y glöyn byw sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ym Mhrydain.
Mae’r fritheg frown yn bridio ble mae fioledau’n tyfu o dan ganopi agored o redyn ungoes, ar lethrau graddol o amgylch ymyl y llwyfandir.
Mae’r gloÿnnod byw llawndwf yn ymddangos o’r rhedyn rhwng canol Mehefin ac Awst a gellir eu gweld yn bwydo ar flodau mieri ac ysgall. Mae’r benywod yn dodwy wyau yn y dail rhedyn marw i’w gwarchod dros y gaeaf. Yna mae’r wyau’n deor ddechrau’r gwanwyn a gellir gweld y lindys tywyll yn gorwedd ar y rhedyn marw ac yn bwydo ar eu prif blanhigyn bwyd, y fioled gyffredin (Viola riviniana).
Fioled gyffredin
Mae’r rhedyn yn creu microhinsoddau cynnes (15-20°C yn uwch na’r llystyfiant glaswelltir o’i amgylch) sy’n caniatáu i’r lindys ddatblygu’n gyflym. Er mwyn osgoi ysglyfaethwyr, mae’r lindys wedi’u gorchuddio â phigau brown pluog sy’n dynwared ffrondau’r rhedyn marw. Yna maent yn troi’n chwileri o dan ddail neu redyn marw mewn strwythurau llac tebyg i bebyll y maent yn eu creu drwy nyddu dail gyda’i gilydd. Mae’r rhywogaeth wedi’i chyfyngu i raddau helaeth i safleoedd cysgodol, agored a heulog sy’n wynebu’r de fel arfer ac sydd o dan 300m o uchder.
Y fritheg frown yw’r rhywogaeth fwyaf bregus o löyn byw ym Mhrydain. Bu dirywiad sylweddol yn ei phoblogaeth yn hanesyddol ar draws Cymru a gweddill y DU (collwyd dros 90% ers yr 1970au). Erbyn hyn, Old Castle Down yw’r unig safle y gwyddys amdano yng Nghymru sy’n cynnal poblogaeth o’r Fritheg Frown. Am ei bod mewn perygl gwirioneddol o ddifodiant, mae’r Fritheg Frown yn rhywogaeth â blaenoriaeth o dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, wedi’i rhestru yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac wedi’i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae hefyd wedi’i rhestru fel rhywogaeth â blaenoriaeth uchel gan yr elusen Gwarchod Glöynnod Byw.
I gael rhagor o wybodaeth am y Fritheg Frown, ewch i wefan Gwarchod Glöynnod Byw. (Saesneg yn unig)
Pori er Cadwraeth
Un o’r prif ffactorau sydd wedi achosi’r dirywiad hanesyddol yn niferoedd y Fritheg Frown yw’r gostyngiad yn y dulliau traddodiadol o reoli rhedyn ungoes a phrysgwydd, gan gynnwys pori gan wartheg. Mae’r gostyngiad yn y lefelau pori gan wartheg yn caniatáu i redyn a phrysgwydd ddominyddu a mynd yn drech na’r planhigion eraill ar y tir sy’n hanfodol i oroesiad y rhywogaeth.
Er mwyn adfer cymunedau rhostir a glaswelltir, ac ehangu cynefin y Fritheg Frown, mae gwartheg glaswelltir wedi’u cyflwyno i Old Castle Down i wella’r brithwaith o rostir a glaswelltir ac atal ymlediad prysgwydd.
Bydd pori helaeth gan wartheg yn digwydd yn ystod y gaeaf a dechrau’r gwanwyn (rhwng Chwefror ac Ebrill). Os bydd pori’n digwydd rhwng Ebrill a Mehefin, fel arfer bydd yn ysgafn a thros ardal eang er mwyn osgoi colli ffynonellau neithdar y gloÿnnod byw llawndwf.
Nod y prosiect hwn yw adeiladu poblogaeth wydn, sefydlog a chynaliadwy o’r Fritheg Frown a chynyddu’r arwynebedd o gynefin addas sydd ar gael i alluogi’r boblogaeth i dyfu ac ehangu.
Cynghorir ymwelwyr â’r safle i beidio â bwydo’r anifeiliaid sy’n pori ac i roi digon o le iddynt. Cofiwch beidio â chynhyrfu a cherddwch yn araf. Gofynnwn i gerddwyr cŵn gadw eu cŵn ar dennyn byr.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli rhedyn, dilynwch y dolenni canlynol:
- Rhedyn ar gyfer glöynnod byw (Saesneg yn unig)
- Y Fritheg Frown (Saesneg yn unig)
Grug croesddail (Erica tetralix)
Grug (Calluna vulgaris)
Cyswllt: cardiff&vale.environmentteam@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
Diddordebau
- Biodiversity