SoNaRR 2025: Cyfres o Weminarau
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal cyfres o bum gweminar i rannu tystiolaeth a mewnwelediadau allweddol o Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.
Nod y gyfres o weminarau yw ymgorffori a gweithredu tystiolaeth o SoNaRR 2025 drwy drosi canfyddiadau allweddol yn fewnwelediadau ymarferol ar gyfer polisi, rhaglenni a chyflawni ledled Cymru.
Drwy gyfres o sesiynau thematig wedi'u harwain gan arbenigwyr technegol, bydd cyfle i gyfranogwyr archwilio'r dystiolaeth, deall pam ei bod yn bwysig, ac ystyried sut y gellir ei chymhwyso'n ymarferol.
Mae'r gweminarau hyn ar agor i staff, partneriaid, rhanddeiliaid ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall sut y gall tystiolaeth SoNaRR gefnogi polisi, cynllunio a chyflawni ledled Cymru.
I archwilio mwy o dystiolaeth, mewnwelediadau a sgyrsiau am adnoddau naturiol Cymru, ewch i Bodlediad CNC: Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Beth mae'r gweminarau'n ei drafod
Bydd pob sesiwn yn:
- Rhoi trosolwg o'r dystiolaeth berthnasol o SoNaRR.
- Egluro beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud a pham ei fod yn bwysig.
- Amlygu mewnwelediadau ymarferol ar gyfer polisi, rhaglenni a chyflawni.
- Cefnogi gwell dealltwriaeth a defnydd o dystiolaeth CNC.
- Cynnig y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr technegol ac arbenigwyr pwnc.
- Cynnwys amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth
Amserlen y gweminarau
|
Cyfres |
Dyddiad |
Amser |
Teitl |
Prif gyflwynydd |
Dolen gofrestru |
|
1 |
16 Medi |
12:00 |
Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros foroedd Cymru |
Jenny Oates |
|
|
2 |
14 Hydref |
13:00 |
Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros afonydd Cymru |
Sue Hearn Dave Charlesworth |
|
|
3 |
4 Tachwedd |
14:00 |
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros dir Cymru |
Nic Talyor a Mel Meaden |
|
|
4 |
17 Tachwedd |
11:00 |
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros anifeiliaid a phlanhigion Cymru
|
Liz Halliwell |
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros anifeiliaid a phlanhigion Cymru |
|
5 |
10 Rhagfyr |
14:00 |
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros Gymru Drefol |
Pete Frost |
Manylion Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gyfres, cysylltwch â sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- SoNaRR 2025
Diddordebau
- SoNaRR 2025
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook