Preifatrwydd

GWYBODAETH CYFOETH NATURIOL CYMRU AR BREIFATRWYDD

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei amddiffyn pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol inni (e.e. eich enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn neu e-bost), hoffem ichi wybod y bydd yn cael ei gadw’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig o amser, ac yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn yr arolwg yn unig ac yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data.

Sylwch: Pan fyddwn yn cynnal arolwg, fel arfer nid oes angen gofyn am wybodaeth bersonol gennych chi, ond ar rai adegau prin, efallai y byddwn yn gofyn am rai.

Pryd fyddem ni'n gwneud hynny?

Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich manylion cyswllt:

• pe bai gennych ddiddordeb mewn siarad â ni ymhellach am ymgynghoriad neu dystiolaeth, neu mynychu sesiwn ddilynol fel grŵp ffocws

• pe bawn yn lansio gwasanaeth newydd ac rydych wedi mynegi diddordeb ac yr hoffech gael mwy o fanylion.

Mae yna hefyd opsiwn i dderbyn copi o'ch ymateb i'r arolwg pan fyddwch chi'n ei gyflwyno. I wneud hynny mae angen i chi roi cyfeiriad e-bost.  Ni fydd gan CNC mynediad i'r cyfeiriad e-bost hwn, gan ei fod yn cael ei storio gan ddarparwr y system; Delib, sydd hefyd yn gorfod cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Mae’r holl fanylion am sut y mae CNC yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau i’w gweld trwy’r ddolen isod.

Cymraeg: Hysbysiad Preifatrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru