Polisi Hygyrchedd
Hygyrchedd meddalwedd Delib
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Mae'r wefan hon yn cynnwys:
- Meddalwedd sydd wedi'i ddylunio a'i reoli gan Delib, er enghraifft y strwythur cyffredinol a golwg a theimlad y tudalennau.
- Cynnwys sydd wedi'i ychwanegu gan Hwb Ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft y rhan fwyaf o'r wybodaeth, gan gynnwys testun, lluniau a dogfennau.
Nid yw Delib yn rheoli'r cynnwys a ychwanegir i'r wefan hon, ond mae'n datblygu ac yn profi'r feddalwedd i gefnogi:
- Chwyddo i mewn hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- Gwrando ar y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin.
Gellir rhestru cynnwys nad yw'n gwbl hygyrch ar y dudalen hon fel anghydffurfiaeth, neu gellir rhoi manylion ochr yn ochr â'r cynnwys anhygyrch.
Mae Delib wedi ymrwymo i wneud y feddalwedd yn hygyrch.
Mae delib yn profi'r feddalwedd yn erbyn safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.2 AA. Mae gwelliannau i'r feddalwedd yn cael eu rhyddhau'n rheolaidd. Mae unrhyw newidiadau a wneir i'r feddalwedd fel rhan o'r broses honno yn cael eu profi'n fewnol cyn eu rhyddhau er mwyn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.2 lefel AA.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.