Ymgynghoriad ar reolau safonol: adolygiad o reolau safonol ar gyfer gweithgareddau triniaeth anaerobig (SR2012_Rhif 10, SR2018_Rhif 11 ac SR2023_Rhif 1)
Trosolwg
Mae’r ymgynghoriad hwn yn digwydd fel rhan o adolygiad ehangach o holl setiau o reolau safonol Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn y sector trin biowastraff, sy’n cynnwys yr holl weithgareddau compostio, treulio anaerobig a thrin slwtsh carthion.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:
- Ychwanegu a chael gwared ar fathau penodol o wastraff i gyd-fynd â safonau a gofynion y diwydiant
- Ychwanegu amodau gwella sy’n gysylltiedig â safonau seilwaith y safle
- Diweddaru amodau yn gyffredinol
- Tynnu’n ôl ac archifo SR2023_Rhif 1
Mae’r asesiad risg generig cysylltiedig wedi’i adolygu mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig.
Cyn i ni wneud hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori am gyfnod o dri mis i ganiatáu i’r cyhoedd, diwydiant, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion. Rhaid inni ddarparu manylion ynghylch pam y gwneir y newidiadau hyn, ynghyd â chyfiawnhad.
Rydym yn cynnig gwneud y newidiadau hyn er mwyn:
- Lleihau digwyddiadau a achosir gan y sector biowastraff, gan gynnwys tanau a niwsans o ran aroglau
- Gwella perfformiad gwael
- Gwella cyfraniad at economi fwy cynaliadwy a chylchol
- Cyfrannu at leihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
- Cael gwared ar hen setiau o reolau nad ydynt yn cael eu defnyddio
Drwy wneud hyn byddwn yn cyfyngu ar effeithiau negyddol ar iechyd pobl, cymunedau a’r amgylchedd.
Mae rhagor o fanylion am sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn i’w gweld isod:
Lleihau digwyddiadau a gwella perfformiad gwael
Adolygwyd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n nodi bod achosion digwyddiadau a pherfformiad gwael yng Nghymru a Lloegr yn bennaf o ganlyniad i’r canlynol:
- Dylunio annigonol a safonau adeiladu gwael
- Diffyg rheoli’r broses weithredol
- Methu â chael neu ddilyn system reoli mewn ffordd effeithiol
- Systemau cynnal a chadw diffygiol
- Gwiriadau cyn-derbyn a derbyn annigonol, gan gynnwys lefelau annerbyniol o halogiad porthiant anifeiliaid
Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y canlynol:
- Adolygu’r ymatebion i ymgynghoriad galwad am dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2018
- Adolygu data cydymffurfio ar safleoedd peirianwaith treulio anaerobig a safleoedd compostio
Cyfrannu at economi gynaliadwy a chylchol
Mae adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn.
Ein hamcanion ni yw:
- Cynyddu’r defnydd o wastraff bwyd fel adnodd
- Disodli gwrtaith cemegol trwy adfer gwastraff
Fel y nodir yn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer economi gylchol:
Byddwn hefyd yn ymdrechu i gyflawni amcanion y llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr (yn benodol y rhai sy’n gysylltiedig â’r sector gwastraff a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) fel y nodir yn:
Lleihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
Gall y sector hwn gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:
- Lleihau’r dirywiad yn ansawdd pridd
- Dal a storio carbon
- Cynhyrchu ynni o beirianwaith treulio anaerobig
Fodd bynnag, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau:
- Bod allyriadau fel arogl, bioaerosolau, nwyon tŷ gwydr ac amonia yn cael eu rheoli
- Nad oes unrhyw risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
Pam bod eich barn yn bwysig
I bwy fydd hwn o ddiddordeb?
Credwn y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r partïon canlynol:
Gweithredwyr y set o reolau safonol ar gyfer treulio anaerobig: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Gweithredwyr, cymdeithasau masnach a busnesau eraill: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Rheoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau anllywodraethol sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl, wrth barhau i fod yn ddefnyddiol i’r diwydiant.
Deiliaid presennol
Os ydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd o dan reolau safonol sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn, o ganlyniad i unrhyw newidiadau a wneir, bydd gofyn i chi gymryd un o’r camau canlynol:
- Uwchraddio’ch safle i fodloni’r safonau a osodwyd gan y rheolau newydd.
- Gwneud cais i amrywio’ch gweithgaredd i drwydded bwrpasol.
- Gwneud cais i ildio’r drwydded.
Pwysig: Hyd yn oed os yw gweithredwr wedi rhoi’r gorau i weithredu, neu heb erioed ddechrau gweithredu, bydd ffioedd cynhaliaeth yn parhau i gronni nes bod ei drwydded yn cael ei hildio’n ffurfiol. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwneud cais i ganslo (ildio) trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni.
Mae’r penawdau canlynol yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig ynghyd â’r rhesymau drostynt. Awgrymwn eich bod yn cymharu’r setiau o reolau safonol cyfredol â’r drafftiau arfaethedig yn adran ddolenni’r ymgynghoriad hwn.
Setiau o reolau safonol wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo
Mae gan y setiau o reolau safonol isod ddeiliaid, ond nid ydynt ar gael ar gyfer ceisiadau newydd. Rydym yn galw’r rhain yn rhai sydd ‘wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo’.
- SR2012 Rhif 10 – cyfleuster treulio anaerobig ar y fferm sy’n defnyddio gwastraff fferm yn unig, gan gynnwys defnyddio’r bionwy sy’n deillio o hynny (heb fod ar gael i ymgeiswyr newydd)
- SR2018 Rhif 11 – cyfleuster treulio anaerobig ar y fferm gan gynnwys defnyddio’r bionwy canlyniadol (ddim ar gael i ymgeiswyr newydd)
Mae’r trwyddedau hyn yn union yr un fath, ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw gyfanswm o wyth deiliad (chwech SR2012 Rhif 10, a dau SR2018 Rhif 11). Byddant yn parhau i fod ‘wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo’ ac ni fyddant ar gael i ymgeiswyr newydd.
- SR2023 Rhif 01 – cyfleuster treulio anaerobig ar y fferm sy’n defnyddio gwastraff fferm yn unig, gan gynnwys defnyddio’r bionwy sy’n deillio o hynny (>100/tunnell y dydd)
Ar hyn o bryd mae gan y drwydded hon dri deiliad, ac mae un ohonynt yn anweithredol. Mae’r drwydded hon ar gael i ymgeiswyr newydd ar hyn o bryd; fodd bynnag, rydym yn cynnig tynnu’r drwydded hon yn ôl a’i harchifo fel nad ydyw ar gael i ymgeiswyr newydd mwyach.
Credwn y bydd tynnu’n ôl ac archifo’r set olaf o’r rheolau safonol sydd ar ôl yn cyfrannu at gyflawni amcanion yr ymgynghoriad hwn.
Oherwydd y defnydd isel o’r set reolau hon, fel y dangosir gan y nifer fach iawn o ddeiliaid trwyddedau gweithredol, nid ydym yn rhagweld llawer o effaith ar fusnes.
Bydd angen i ymgeiswyr newydd sy’n ceisio am drwydded i ymgymryd â gweithgaredd newydd ar safle newydd gael trwyddedau pwrpasol a fydd yn sicrhau bod trwyddedau yn y dyfodol wedi’u teilwra i’r anghenion gweithredol penodol, ffrydiau gwastraff, a lleoliad safle gweithrediadau penodol a fydd yn sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli a’u lliniaru’n ddigonol.
Gweithgareddau a ganiateir
Rydym wedi cynnig gwelliannau i’r tabl gweithgareddau a ganiateir ar gyfer peirianwaith treulio anaerobig i gynnwys:
- Uwchraddio bionwy a chwistrellu biomethan i’r grid.
- Caniatáu i ffibr gweddillion treuliad anaerobig wedi’i basteureiddio a’i wahanu gael ei gompostio yn yr awyr agored gyda lleihad yn yr allyriadau, neu o dan awyru statig.
- Darpariaeth ar gyfer storio deunyddiau crai yn ddiogel.
- Darpariaeth ar gyfer storio gwastraff peryglus yn ddiogel, fel olew injan wedi’i ddefnyddio a charbon wedi’i ddefnyddio.
Meini prawf safle
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig diweddaru meini prawf lleoliad safle ar gyfer trwyddedau rheolau safonol i gynnwys parthau cadwraeth morol. Mae’r newid hwn yn angenrheidiol gan nad oedd dynodiadau morol ar waith pan ddatblygwyd rhai o’r rheolau safonol hyn yn wreiddiol.
Rydym hefyd yn cynnig cynnwys pellter gofynnol o dderbynyddion sensitif, safleoedd dynodedig, cyrsiau dŵr a safleoedd neu gynefinoedd o bwys mawr lle ystyrir bod y gweithgareddau a ganiateir yn risg.
Yn ogystal, rydym yn awgrymu ymgorffori ardaloedd rheoli ansawdd aer yn y meini prawf ar gyfer lleoliad y safle. Rydym yn cydnabod y gall sefydlogi ac aeddfedu ffibr gweddillion treuliad anaerobig compostio gael effaith negyddol ar ansawdd aer. Am y rheswm hwn, rydym yn cynnig na fydd rheolau safonol ar gael ar gyfer gweithrediadau o fewn ardaloedd rheoli ansawdd aer.
Derbyn gwastraff
Rydym yn cydnabod bod adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn. Dymunwn i’r diwydiant biowastraff arwain yr economi gylchol. Fodd bynnag, er mwyn ateb y galw a sicrhau pris marchnad uwch, rhaid i’r deunydd allbwn fod o ansawdd cyson i fodloni gofynion cwsmeriaid.
Felly, er nad ydym yn cynnig dileu unrhyw godau gwastraff y gellir eu derbyn, rydym yn cynnig eithrio’r canlynol:
- Gwastraff peryglus
- Gwastraff sy’n cynnwys deunyddiau cadw pren neu fioladdwyr eraill a phren ôl-ddefnyddwyr
- Gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus
- Gwastraff sy’n cynnwys clymog Japan neu rywogaethau planhigion goresgynnol eraill
- Tail, slyri, gwellt a gwellt gwely wedi’u difetha o ffermydd lle mae gan anifeiliaid glefydau hysbysadwy
- Gwastraff wedi’i heintio â phlâu
Rydym yn cynnig y mathau gwastraff canlynol yn ychwanegol:
- 02 01 99 – Gwastraff nad ydyw wedi’i nodi fel arall – compost madarch wedi’i ddefnyddio o dyfu madarch masnachol yn unig
Technegau gweithredu – cyffredinol
Dim ond i SR2012 Rhif 10 ac SR2018 Rhif 11 y mae’r newidiadau hyn yn berthnasol gan eu bod eisoes yn ofynnol gan SR2023 Rhif 1.
Rydym yn cynnig gwneud newidiadau i drwyddedau, megis cynnwys technegau gweithredu sy’n ei gwneud yn ofynnol i wneud y canlynol:
- Storio gwastraff am yr amser lleiaf sy’n ymarferol cyn ei drin.
- Storio gwastraff sydd o dan gwarantin ac sydd wedi’i wrthod mewn cynwysyddion caeedig neu eu gorchuddio, a’u symud i gyfleuster rheoleiddiedig o fewn pum diwrnod.
- Cael gwared ar fân ddarnau na ellir eu compostio a’u treulio o’r gwastraff cyn ei brosesu i’r lefel isaf posibl.
- Rhaid i’r gweithredwr gael cynllun draenio i’r safle.
- Dim ond dŵr glân ddylai gael ei ollwng i ddŵr daear neu gyrsiau dŵr wyneb.
- Rhaid dylunio ac adeiladu systemau echdynnu a lleihau aer yn benodol ar gyfer y cyfleuster.
- Bydd ardaloedd trosglwyddo yn cael eu monitro, a thanceri yn cael eu goruchwylio.
- Rhaid dylunio’r systemau gwasgedd yn addas, a’u monitro a’u harchwilio.
- Dim ond mewn system gaeedig sydd wedi’i chynllunio’n addas gyda system ostyngiadau y gellir sychu ffibr gweddillion treuliad anaerobig wedi’i wahanu.
- Dylid compostio ffibr gweddillion treuliad anaerobig i hyrwyddo amodau aerobig.
- Canfod gollyngiadau methan.
Rydym yn disgwyl i fanylion ynglŷn â sut mae’r gweithredwr yn bwriadu cydymffurfio â’r rheolau hyn gael eu manylu yn systemau rheoli amgylcheddol y safle.
Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol, gan y dylai cyfleusterau eisoes fod yn defnyddio’r technegau hyn yn eu systemau rheoli er mwyn cydymffurfio ag amodau presennol a deddfwriaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol.
Technegau gweithredu – safonau adeiladu
Dim ond i SR2012 Rhif 10 ac SR2018 Rhif 11 y mae’r newidiadau hyn yn berthnasol gan eu bod eisoes yn ofynnol gan SR2023 Rhif 1.
Rydym yn cynnig newidiadau i ddylunio, adeiladu a chynnal a chadw seilwaith hanfodol, systemau cynnwys eilaidd a draenio i fodloni safonau cydnabyddedig sy’n gwarchod asedau ac yn lleihau’r risg o fethiannau.
Yn benodol, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i chi lynu wrth safonau Cymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) (Adroddiad 736 neu safon gyfatebol), bod synwyryddion lefel wedi’u gosod ym mhob tanc, a bod systemau gwasgedd wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer yr amrywiad arferol mewn digwyddiadau llif nwy, cynhyrchiant a gwasgedd.
Byddai peiriannydd sifil cymwys yn asesu’r safle i ddilysu (cymeradwyo) bod yr holl ardaloedd derbyn, storio a thrin gwastraff wedi’u hadeiladu a’u cynnal yn unol â safonau CIRIA neu safonau cyfatebol. Rydym yn cynnig bod y gweithredwr yn gwneud hyn o fewn chwe mis o ddyddiad cyhoeddi’r set rheolau diwygiedig.
Os bydd yr asesiad yn canfod nad yw’r safle’n bodloni safonau CIRIA neu safonau cyfatebol, bydd cyfle gan weithredwr y safle i addasu ei safle a chyflwyno cynllun gwella i liniaru’r risg. Dylid cwblhau’r holl waith gofynnol o fewn 18 mis o ddyddiad cyhoeddi’r set o reolau diwygiedig.
Bydd gofyn i’r gweithredwr hefyd wneud y canlynol:
- Adrodd ar gyflwr seilwaith hanfodol.
- Cynnwys gweithdrefnau arolygu a chynnal a chadw (yn unol ag argymhellion y gweithgynhyrchwyr / dyluniad) yn ei system reoli ysgrifenedig gofnodedig.
- Darparu cynllun draenio cywir sy’n dangos sut y bydd yn atal y risg o ddeunydd llygredig yn gadael y safle.
Bydd y cynnig hwn yn alinio’r sector trin biowastraff â sectorau gwastraff a diwydiant eraill, fel tirlenwi ac amaethyddiaeth, sydd eisoes yn gofyn am ddilysu safle gan beiriannydd siartredig cymwys.
Technegau gweithredu – capasiti’r safle a storfa wrth gefn
Pan fydd cyfleusterau’n gweithredu y tu hwnt i’w dyluniad neu gapasiti’r safle, gall sawl problem godi, yn cynnwys problemau gydag arogl, bioaerosolau ac ansawdd yr allbwn. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnig y dylai’r drwydded nodi’r canlynol:
- Yr angen i weithredu o fewn dyluniad neu gapasiti safle’r cyfleuster.
- Na fydd y gweithredwr yn derbyn gwastraff oni bai bod capasiti i’w drin.
- Bod yr holl wastraff sy’n dod i mewn yn cael ei reoli i atal dadelfennu heb ei reoli, gan gynnwys monitro a rheoli’n weithredol y deunydd crai.
Rydym yn cynnig bod gweithredwyr yn asesu ac yn manylu ar eu dyluniad neu gapasiti’r safle o fewn eu system reoli amgylcheddol a chynnwys sut maen nhw’n cyflawni gweithrediad o fewn y terfynau hyn. Bydd angen i weithredwyr safleoedd sicrhau bod y ffordd y maent yn bwriadu cydymffurfio â’r rheolau hyn wedi’u manylu yn systemau rheoli amgylcheddol y safleoedd.
Rhaid i weithredwyr hefyd ddarparu ar gyfer storio deunydd gorffenedig pan nad yw’r banc tir ar gael, gan sicrhau digon o gapasiti storio ar gyfer gwirodydd, trwytholch, a/neu weddillion treuliad anaerobig.
Mae'n rhaid i weithredwyr cynllunio ar gyfer storio deunydd pan nad yw'r bank tir ar gael. Dylid sicrhau bod digon o capasiti i storio’r deunydd trwy cadw o leiaf 750mm o bwrdd rhydd ar gyfer hylifau, dwr gwastraff, a/neu ddiddymu.
Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol, gan y dylai cyfleusterau eisoes fod yn gweithredu o fewn eu dyluniad neu gapasiti’r safle.
Technegau gweithredu – Lagwnau dan do (lagwnau newydd yn unig)
Dim ond i SR2012 Rhif 10 a SR2018 Rhif 11 y mae’r newidiadau hyn yn berthnasol gan eu bod eisoes yn ofynnol gan SR2023 Rhif 1.
Mae gorchudd ar gyfer storfeydd a lagwnau slyri a gweddillion treuliad anaerobig ar y fferm yn lleihau’r dŵr sy’n mynd i mewn ac felly’n lleihau cyfaint y slyri neu’r gweddillion treuliad y mae angen i weithredwr ei storio a’i wasgaru ar dir. Mae hefyd yn gwella ansawdd aer trwy leihau allyriadau amonia.
Rydym yn cynnig y dylid gorchuddio unrhyw lagwnau storio gweddillion treuliad anaerobig newydd a gynlluniwyd ac a adeiladwyd ar ôl dyddiad cyhoeddi’r set o reolau diwygiedig. Ni fydd y gofyniad hwn yn berthnasol i lagwnau sy’n bodoli eisoes.
Technegau gweithredu – comisiynu cyfleusterau ac astudiaeth gweithredu peryglon
Dim ond i SR2012 Rhif 10 ac SR2018 Rhif 11 y mae’r newidiadau hyn yn berthnasol gan eu bod eisoes yn ofynnol gan SR2023 Rhif 1.
Mae system reoli’r cyfleuster yn nodi gweithdrefnau, gan gynnwys hyfforddiant staff. Dylai hefyd gynnwys cynllun comisiynu. Mae hyn yn nodi sut y bydd y gweithredwr yn mynd i’r afael â digwyddiadau yn ystod cyfnod comisiynu.
Mae diffyg system reoli, neu system reoli sydd wedi’i mabwysiadu’n wael, yn achosi methiannau a diffyg cydymffurfio. Felly, rydym yn cynnig bod gofyn i safleoedd gyflwyno cynllun ailgomisiynu cyn ailgychwyn yn dilyn unrhyw gyfnod o gau i lawr neu adnewyddu. Er enghraifft, yn dilyn gwaith i sicrhau bod y safle yn bodloni safonau CIRIA.
Rydym yn cynnig bod pob cyfleuster yn cynnal asesiad comisiynu cyfleusterau ac astudiaeth gweithredu peryglon neu asesiad risg tebyg i lywio’r gofyniad am waith hanfodol a chynnal a chadw. Bydd angen i weithredwyr fanylu ar y rhaglen waith yn eu gweithdrefnau rheoli.
Ni ddylai fod unrhyw gost ychwanegol gan y dylai gweithredwyr fod yn gwneud hyn eisoes.
Allyriadau sy’n ffoi
Mae system reoli’r cyfleuster yn nodi gweithdrefnau ar gyfer atal ac adnabod allyriadau sy’n ffoi. Fodd bynnag, gall diffyg system reoli, neu system reoli sydd wedi’i mabwysiadu’n wael, achosi rhyddhau nwyon heb eu rheoli a all arwain at arogleuon a diffyg cydymffurfio. Mae gollyngiadau methan hefyd yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Felly, rydym yn cynnig bod gweithredwyr yn gweithredu rhaglen canfod gollyngiadau a gwaith atgyweirio i ganfod a lliniaru rhyddhau cyfansoddion organig anweddol, gan gynnwys methan. Rhaid i’r gweithredwr gynnal o leiaf un archwiliad yn flynyddol a darparu adroddiad cryno yn flynyddol.
Rhywogaethau estron goresgynnol
Mae'r rhywogaethau nad ydynt yn frodorol (INNS) yn fygythiad i fioamrywiaeth yng Nghymru ac felly mae rheolau i atal a lleihau effaith eu cyflwyno a'u lledaeniad.
Felly, yn ogystal â chlymog Japan, rydym ni'n cynnig gwella mesurau bioddiogelwch drwy hefyd eithrio rhywogaethau planhigion a llyngyrenau eraill a restrwyd yn y Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 (deddfwriaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr UE gynt).
Iechyd anifeiliaid
Er mwyn cyd-fynd â rheoliadau iechyd anifeiliaid a sicrhau safonau uchel o ran iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd, rydym yn cynnig gwahardd tail, slyri, gwellt a gwellt gwely wedi’u difetha o ffermydd lle mae gan anifeiliaid glefydau hysbysadwy, fel y nodir yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.
Plâu
Gall plâu sy’n deillio o weithgareddau treulio anaerobig achosi perygl iechyd neu niwsans y tu allan i ffiniau’r safle. Felly, rydym yn cynnig na chaiff y gweithredwr ei ddal yn gyfrifol am dorri’r amod hwn os yw’r mesurau priodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheini a nodir yn y cynllun rheoli plâu a gymeradwywyd, wedi’u cymryd i atal neu, lle nad yw hynny’n ymarferol, i leihau presenoldeb plâu ar y safle.
Atal tân
Gall tanau ddigwydd o ganlyniad i dreuliad anaerobig sydd wedi’i reoli’n wael a storio cysylltiedig. Er mwyn lleihau’r risg o dân, rydym yn cynnig bod y gweithredwr yn gweithredu cynllun atal tân sy’n atal tanau ac yn lleihau risgiau. Bydd gofyn i’r gweithredwr hefyd gynnal asesiad Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol a chynnal cynllun rheoli damweiniau, ynghyd â monitro canfod gollyngiadau methan a gweithdrefn trwydded i weithio ar blanhigion treulio anaerobig.
Nid ydym yn credu y bydd y gofynion ychwanegol yn effeithio ar weithredwyr. Bydd y rhan fwyaf o safleoedd eisoes wedi rhoi’r mesurau hyn ar waith.
Adrodd a ffurflenni gwastraff
Dim ond i SR2012 Rhif 10 ac SR2018 Rhif 11 y mae’r newidiadau hyn yn berthnasol gan eu bod eisoes yn ofynnol gan SR2023 Rhif 1.
Rydym yn bwriadu dileu'r gofynion i weithredwyr gwneud adroddiad am bob deunydd sy'n gadael y safle, gan gynnwys deunydd digestate ardystiedig o trin tail a slyri yn unig.
Y rheswm am y newid hwn yw, ar hyn o bryd, does gennyn ni ddim broses adrodd ganolog i gasglu'r wybodaeth hon. Mae angen i gweithredwyr cadw gofnod a cyflwyno y wybodaeth hyn ar gyfer archwiliad a thrafodaeth pan ofynnir.
Yn y dyfodol gallwn ni adolygu y penderfyniad yma.
Asesiad risg generig
Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau i’r asesiad risg generig.
Give us your views
Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 10 Gorff 2025. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Forest Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Water Resources
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
- Natur am Byth!
Diddordebau
- Regulatory Voice
- Permits
- Waste
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook