Ymgynghoriad ar Ganllawiau Gofynion Awdurdodi (GRA) asiantaethau’r amgylchedd ar gyfer Cyfleusterau Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Solet.

Yn cau 28 Chwef 2025

Wedi'i agor 12 Tach 2024

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Chanllawiau Gofynion Awdurdodi (GRA) asiantaethau’r amgylchedd ar gyfer Cyfleusterau Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Solet. Rydym yn ceisio’ch barn ar y canllawiau ar y cyd a fydd yn disodli dau GRA sydd mewn defnydd ar hyn o bryd – un ar gyfer cyfleusterau gwaredu ger yr wyneb ac un ar gyfer cyfleusterau gwaredu daearegol. 

Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag unrhyw safle penodol. Nid yw'n ymwneud â'r angen am ynni niwclear nac â lleoli cyfleusterau gwaredu gwastraff na gorsafoedd ynni niwclear.

Cwmpas daearyddol

Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoli'r ymgynghoriad hwn ar y GRA ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA).

Mae Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban (SEPA) yn ymgynghori ar ddogfen GRA debyg ond ar wahân ar gyfer yr Alban sy'n cwmpasu cyfleusterau gwaredu ger yr wyneb yn unig.

Cynulleidfa

  • Mae cynulleidfa darged yr ymgynghoriad hwn fel a ganlyn:
  • defnyddwyr y canllawiau.
  • aelodau'r cyhoedd.
  • safleoedd niwclear a diwydiannau eraill sy’n cynhyrchu gwastraff ymbelydrol.
  • academyddion sydd â diddordeb mewn gwastraff ymbelydrol, ynni niwclear, cynhyrchu ynni neu'r amgylchedd.
  • cyrff anllywodraethol.
  • cymunedau sy'n byw ger safleoedd niwclear neu safleoedd gwastraff niwclear.
  • Partneriaethau Cymunedol GDF South Copeland, Mid Copeland a Theddlethorpe, a chymunedau yn yr ardaloedd hynny yn Lloegr.

Croesewir sylwadau gan unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb hefyd.

Hyd

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 28 Chwefror 2025.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Unrhyw un o unrhyw gefndir

Diddordebau

  • Consultation