Ymgynghoriad ar dair trwydded rheolau safonol newydd a dwy drwydded rheolau safonol ddiwygiedig

Yn cau 1 Tach 2024

Wedi'i agor 1 Awst 2024

Trosolwg

Rydym yn gallu gwneud trwyddedau amgylcheddol rheolau safonol i leihau'r baich gweinyddol ar fusnesau wrth gynnal safonau amgylcheddol. Maent yn seiliedig ar setiau o reolau safonol y gallwn eu cymhwyso’n eang ar draws y wlad, cyn belled ag y gellir bodloni meini prawf y lleoliad a’r amodau a nodir ym mhob un. Datblygir y rheolau gan ddefnyddio asesiadau o'r risgiau amgylcheddol a gyflwynir gan y gweithgaredd.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:

· Creu tair trwydded rheolau safonol newydd

· Diwygio dwy drwydded rheolau safonol bresennol

Cyn i ni wneud hyn, mae'n rhaid i ni ymgynghori am gyfnod o dri mis i ganiatáu i'r cyhoedd, diwydiant, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion. Rhaid inni ddarparu manylion ynghylch pam y gwneir y newidiadau hyn a chyfiawnhad.

I bwy y bydd hwn o ddiddordeb?

Credwn y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r partïon canlynol:

Gweithredwyr, cymdeithasau masnach a busnesau: dyma'ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a'ch diwydiant, ond hefyd yn darparu'r amddiffyniad angenrheidiol sydd eu hangen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Rheoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol: dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn darparu’r amddiffyniad angenrheidiol sydd eu hangen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl, wrth barhau i fod yn ddefnyddiol i ddiwydiant.

Pam ein bod yn gwneud hyn?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â rhai trwyddedau rheolau safonol newydd a diwygiedig, sy'n deillio o newidiadau arfaethedig i'r gyfundrefn esemptiadau gwastraff. Mae’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Maent wedi bod yn gweithio ar newidiadau i ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ac i leihau perfformiad gwael – Mynd i’r afael â throseddau yn y sector gwastraff a chyflwyno cosbau penodedig ar gyfer y ddyletswydd gofal o ran gwastraff. Roedd hyn yn cynnwys diwygiadau arfaethedig i esemptiadau gwastraff i wella cydymffurfedd ag esemptiadau a lleihau troseddau gwastraff. Roedd hefyd yn anelu at sicrhau bod risgiau llygredd yn cael eu rheoli'n well ac i leihau'r risg a achosir gan weithgareddau sydd wedi’u hesemptio, yn enwedig risgiau tân a gadael gwastraff.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y newidiadau arfaethedig i esemptiadau gwastraff yn nogfen ‘ymateb y llywodraeth’. Mae’r ddogfen hon yn egluro pa newidiadau y gallwn eu disgwyl, pam eu bod yn cael eu gwneud, a phryd maent yn debygol o ddigwydd. Ceir atodiad hefyd sy’n rhoi rhagor o fanylion am y newidiadau unigol, gan gynnwys yr amodau newydd ar gyfer pob un o’r esemptiadau diwygiedig.

Esemptiadau a fydd yn cael eu newid:

· U1 – Defnyddio gwastraff wrth adeiladu

· T4 – Triniaethau paratoadol (bwndelu, didoli, darnio, ac ati)

· T6 – Trin pren gwastraff

· T12 – Trin gwastraff â llaw

· D7 – Llosgi gwastraff ar dir agored

· S1 – Storio gwastraff mewn cynwysyddion diogel

· S2 – Storio gwastraff mewn lleoliad diogel

Esemptiadau a dynnir yn ôl:

· T8 – Triniaeth fecanyddol o deiars ar ddiwedd eu hoes

· T9 – Adfer metel sgrap

· U16 – Defnyddio rhannau o gerbydau ar ddiwedd eu hoes sydd wedi’u dadlygru

Yr hyn rydym yn ei wneud

O ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig hyn, rydym yn disgwyl y bydd angen i ragor o weithgareddau gael eu rheoleiddio gan drwyddedau amgylcheddol. Mae hyn oherwydd bod tynnu esemptiad T8 yn ôl, er enghraifft, yn golygu y bydd angen trwydded ar unrhyw un sy’n trin teiars yn y dyfodol.

Ar ôl adolygu ein trwyddedau rheolau safonol i sicrhau bod trwyddedau addas ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt gan y newidiadau, rydym wedi creu setiau rheolau newydd a diwygiedig ar gyfer nifer o weithgareddau gwastraff. Credwn y bydd y rhain yn helpu gweithredwyr i drosglwyddo o'r gyfundrefn esemptiadau i'r gyfundrefn drwyddedu. Mae'r setiau rheolau safonol newydd wedi'u hanelu'n bennaf at weithredwyr safleoedd gwastraff sy'n gweithredu ar hyn o bryd o dan esemptiadau T8 (ailgylchu teiars), T12 (ar gyfer ailgylchu matresi) a T4 (ar gyfer bwndelu papur, cardbord a phlastig).

Rydym yn cynnig creu'r trwyddedau rheolau safonol canlynol

Gwastraff nad yw'n beryglus (storio a thrin)

Tair set o reolau safonol newydd a'r asesiadau risg generig cysylltiedig, yn ogystal â'r taliadau sy'n gysylltiedig â'r setiau rheolau safonol newydd

· SR2024 Rhif 01 – Matresi gwastraff i'w hadfer i ddisodli esemptiad T12

· SR2024 Rhif 02 – Teiars gwastraff i'w hadfer i ddisodli esemptiad T8

· SR2024 Rhif 03 – Papur gwastraff, cardbord a phlastig i'w hadfer i ddisodli esemptiad T4

Rydym yn cynnig newid y trwyddedau rheolau safonol canlynol

Diwygiadau i ddwy set o reolau safonol presennol ynghyd â diweddariad i eiriad yr amodau canlynol. Ni chynigir unrhyw ddiwygiadau i'r asesiadau risg generig ar gyfer y gweithgareddau hyn.

· SR2008 Rhif 12 – Safle amwynder ar gyfer gwastraff cartref nad yw'n beryglus wedi'i ddiwygio i gynnwys teiars a gwastraff adeiladu a dymchwel

· SR2008 Rhif 13 – Safle amwynder ar gyfer gwastraff cartrefi peryglus ac nad yw'n beryglus wedi'i ddiwygio i gynnwys teiars a gwastraff adeiladu a dymchwel

Pam bod eich barn yn bwysig

We would like your views on the proposed changes to the following standard rules sets:

SR2024 Rhif 1 – Trin matresi gwastraff i'w hadfer

Mae’r llywodraeth yn cynnig cael gwared ar fatresi fel math o wastraff a ganiateir o dan esemptiadau T12: trin gwastraff â llaw ac S2: storio mewn lleoliad diogel.

Rydym yn cynnig set o reolau safonol newydd ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Bydd y set rheolau safonol hon yn caniatáu i'r gweithredwr:

• gweithredu cyfleuster adfer matresi mewn lleoliad penodol

• derbyn y mathau canlynol o wastraff a ganiateir: matresi yn unig

• derbyn dim mwy na 4,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn

• cynnal triniaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gyfer adfer gwastraff yn unig

Ni all y gweithredwr storio mwy na 260 tunnell o wastraff ar y safle ar unrhyw un adeg.

Mae triniaeth yn gyfyngedig i ddidoli, gwahanu, bwndelu, gronynnu a darnio.

Rhaid storio a thrin gwastraff dan do ac eithrio gwastraff penodol.

Ymdrinnir â risgiau posibl y gweithgaredd a sut i'w rheoli'n briodol yn yr asesiad risg generig.

SR2024 Rhif 2 – Trin teiars gwastraff i'w hadfer

Mae’r llywodraeth yn cynnig tynnu esemptiad T8 yn ôl: trin teiars ar ddiwedd eu hoes yn fecanyddol.

Rydym yn cynnig set o reolau safonol newydd ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Bydd y set rheolau safonol hon yn caniatáu i'r gweithredwr:

• gweithredu cyfleuster adfer teiars mewn lleoliad penodol

• derbyn y mathau canlynol o wastraff a ganiateir:

teiars ar ddiwedd eu hoes a theiars ar ddiwedd eu hoes sydd wedi'u darnio/gronynnu yn unig

• derbyn dim mwy na 5,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn

Mae terfyn storio cyfun yr holl wastraff sy'n cael ei storio ar y safle ar unrhyw un adeg wedi'i gyfyngu i 10 tunnell.

Mae’r driniaeth yn gyfyngedig i lanhau teiars a’u gwahanu oddi wrth gamogau, ailwynebu teiars i'w hailddefnyddio, bwndelu, darnio, plicio, naddu, neu ronynnu.

Ymdrinnir â risgiau posibl y gweithgaredd a sut i'w rheoli'n briodol yn yr asesiad risg generig.

SR2024 Rhif 3 – Trin papur gwastraff, cardbord a phlastig i'w hadfer

Mae’r llywodraeth yn cynnig lleihau'n sylweddol y terfynau maint ar gyfer papur a chardbord a ganiateir o dan esemptiad T4: triniaethau paratoadol, megis bwndelu, didoli, darnio.

Rydym yn cynnig set o reolau safonol newydd ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Bydd y set rheolau safonol hon yn caniatáu i'r gweithredwr:

• gweithredu cyfleuster adfer papur, cardbord a phlastig mewn lleoliad penodol

• derbyn y mathau canlynol o wastraff a ganiateir: papur gwastraff a chardbord a phlastig yn unig

• derbyn dim mwy na 120,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn

• cynnal triniaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gyfer adfer gwastraff yn unig

Ni all y gweithredwr storio mwy na 2,400 tunnell o wastraff ar y safle ar unrhyw un adeg (ac ni all mwy na 500 tunnell ohono fod yn wastraff plastig).

Mae’r driniaeth yn gyfyngedig i ddidoli, darnio, torri, gwahanu, cywasgu, torri bwndeli a bwndelu, a rhaid ei pherfformio dan do.

Ymdrinnir â risgiau posibl y gweithgaredd a sut i'w rheoli'n briodol yn yr asesiad risg generig.

Diwygiadau i setiau rheolau safonol SR2008 Rhif 12 ac SR2008 Rhif 13

Rydym yn cynnig ychwanegu dau god gwastraff newydd at drwyddedau rheolau safonol presennol ar gyfer safleoedd amwynder gwastraff cartref, sef SR2008 Rhif 12 ac SR2008 Rhif 13.

Rydym yn cynnig ychwanegu 16 01 03 (teiars ar ddiwedd eu hoes).

Mae hyn yn dilyn adborth gan weithredwyr bod llawer o safleoedd amwynder cartref yn derbyn teiars gwastraff gan aelodau'r cyhoedd ond dim ond os oes ganddynt drwydded bwrpasol y gallant wneud hynny ar hyn o bryd.

Rydym yn cynnig cyfyngu storio i 1 dunnell o deiars cerbyd cyfan.

Rydym hefyd yn cynnig ychwanegu 17 09 04 (gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg ac eithrio'r hyn a grybwyllwyd yn 17 09 01, 17 09 02 ac 17 09 03).

Mae hyn yn dilyn adborth gan weithredwyr eu bod yn aml yn derbyn gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg gan ddeiliaid tai. Nid yw gweithredwyr bob amser yn gallu gwahanu neu ddarparu storfa ar wahân, ac felly ni allant dderbyn y mathau hyn o wastraff o dan y drwydded rheolau safonol gyfredol. Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r asesiadau risg generig cysylltiedig.

 

Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i wneud sylwadau ynghylch ein rheolau newydd arfaethedig a’r diwygiadau i’r rheolau presennol. Rydym am gael eich adborth yn arbennig ar y cwestiynau a geir ar y ddolen Rhannwch eich barn â ni. Bydd angen i chi edrych ar y trwyddedau rheolau safonol drafft.

Give us your views

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Waste