Ymgynghoriad o reolau safonol: adolygiad o reolau safonol ar gyfer safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus (SR2008 Rhif 19)
Trosolwg
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:
- Tynnu’n ôl ac archifo setiau o reolau safonol
Mae’r asesiadau risg generig cysylltiedig hefyd wedi’u hadolygu mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig.
Cyn i ni wneud hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori am gyfnod o dri mis i ganiatáu i’r cyhoedd, diwydiant, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion. Rhaid inni ddarparu manylion ynghylch pam y gwneir y newidiadau hyn, ynghyd â chyfiawnhad.
Rydym yn cynnig newid y setiau o reolau safonol sy’n ymwneud â thrin biowastraff er mwyn:
- Lleihau digwyddiadau a achosir gan y sector biowastraff, gan gynnwys tanau a niwsans o ran aroglau
- Gwella perfformiad gwael
- Gwella cyfraniad at economi fwy cynaliadwy a chylchol
- Cyfrannu at leihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
- Cael gwared ar hen setiau o reolau nad ydynt yn cael eu defnyddio
Drwy wneud hyn byddwn yn cyfyngu ar effeithiau negyddol ar iechyd pobl, cymunedau a’r amgylchedd.
Mae rhagor o fanylion am sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn i’w gweld isod:
Lleihau digwyddiadau a gwella perfformiad gwael
Adolygwyd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n nodi bod achosion digwyddiadau a pherfformiad gwael yng Nghymru a Lloegr yn bennaf o ganlyniad i’r canlynol:
- Dylunio annigonol a safonau adeiladu gwael
- Diffyg rheoli’r broses weithredol
- Methu â chael neu ddilyn system reoli mewn ffordd effeithiol
- Systemau cynnal a chadw diffygiol
- Gwiriadau cyn-derbyn a derbyn annigonol, gan gynnwys lefelau annerbyniol o halogiad porthiant anifeiliaid
Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y canlynol:
- Adolygu’r ymatebion i ymgynghoriad galwad am dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2018
- Adolygu data cydymffurfio ar safleoedd peirianwaith treulio anaerobig a safleoedd compostio
Cyfrannu at economi gynaliadwy a chylchol
Mae adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn.
Ein hamcanion ni yw:
- Cynyddu’r defnydd o wastraff bwyd fel adnodd
- Disodli gwrtaith cemegol trwy adfer gwastraff
fel y nodir yn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer economi gylchol:
Byddwn hefyd yn ymdrechu i gyflawni amcanion y llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr (yn benodol y rhai sy’n gysylltiedig â’r sector gwastraff a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) fel y nodir yn:
Lleihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
Gall y sector hwn gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:
- Lleihau’r dirywiad yn ansawdd pridd
- Dal a storio carbon
- Cynhyrchu ynni o beirianwaith treulio anaerobig
Fodd bynnag, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau:
- Bod allyriadau fel arogl, bioaerosolau, nwyon tŷ gwydr ac amonia yn cael eu rheoli
- Nad oes unrhyw risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
Pam bod eich barn yn bwysig
I bwy fydd hwn o ddiddordeb?
Credwn y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r partïon canlynol:
Gweithredwyr rheolau safonol ar gyfer safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Gweithredwyr, cymdeithasau masnach a busnesau eraill: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Rheoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau anllywodraethol sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl, wrth barhau i fod yn ddefnyddiol i’r diwydiant.
Deiliaid presennol
Os ydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd o dan reolau safonol sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn, o ganlyniad i unrhyw newidiadau a wneir, bydd gofyn i chi gymryd un o’r camau canlynol:
- Uwchraddio’ch safle i fodloni’r safonau a osodwyd gan y rheolau newydd.
- Gwneud cais i amrywio’ch gweithgaredd i drwydded bwrpasol.
- Gwneud cais i ildio’r drwydded.
Pwysig: Hyd yn oed os yw gweithredwr wedi rhoi’r gorau i weithredu, neu heb erioed ddechrau gweithredu, bydd ffioedd cynhaliaeth yn parhau i gronni nes bod ei drwydded yn cael ei hildio’n ffurfiol. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwneud cais i ganslo (ildio) trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni.
Mae’r penawdau canlynol yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig ynghyd â’r rhesymau drostynt. Awgrymwn eich bod yn cymharu’r setiau o reolau safonol cyfredol â’r drafftiau arfaethedig yn adran ddolenni’r ymgynghoriad hwn.
Setiau o reolau safonol wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo
SR2008 Rhif 19: safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus
Ar hyn o bryd mae gan y drwydded hon un deiliad. Mae’r drwydded hon ar gael i ymgeiswyr newydd ar hyn o bryd; fodd bynnag, rydym yn cynnig tynnu’r drwydded hon yn ôl a’i harchifo fel nad ydyw ar gael i ymgeiswyr newydd mwyach.
Credwn y bydd tynnu’n ôl ac archifo’r set olaf o reolau safonol sydd ar gael yn cyfrannu at gyflawni amcanion yr ymgynghoriad hwn.
Oherwydd y defnydd isel o’r set reolau hon, fel y dangosir gan y nifer fach iawn o ddeiliaid trwyddedau gweithredol, nid ydym yn rhagweld llawer o effaith ar fusnes.
Bydd angen i ymgeiswyr newydd sy’n ceisio am drwydded i ymgymryd â gweithgaredd newydd ar safle newydd gael trwyddedau pwrpasol a fydd yn sicrhau bod trwyddedau yn y dyfodol wedi’u teilwra i’r anghenion gweithredol penodol, ffrydiau gwastraff, a lleoliad safle gweithrediadau penodol a fydd yn sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli a’u lliniaru’n ddigonol.
Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau eraill i’r set o reolau hon.
Give us your views
Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 10 Gorff 2025. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Forest Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Water Resources
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
- Natur am Byth!
Diddordebau
- Regulatory Voice
- Permits
- Waste
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook