Ymgynghoriad o reolau safonol: adolygiad o reolau safonol ar gyfer safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus (SR2008 Rhif 19)

Yn agor 10 Gorff 2025

Yn cau 10 Hyd 2025

Trosolwg

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn ein galluogi i wneud rheolau safonol i leihau’r baich gweinyddol ar fusnes, a chynnal safonau amgylcheddol ar yr un pryd.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:

  • Tynnu’n ôl ac archifo setiau o reolau safonol

Mae’r asesiadau risg generig cysylltiedig hefyd wedi’u hadolygu mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig.

Cyn i ni wneud hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori am gyfnod o dri mis i ganiatáu i’r cyhoedd, diwydiant, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion. Rhaid inni ddarparu manylion ynghylch pam y gwneir y newidiadau hyn, ynghyd â chyfiawnhad.

Rydym yn cynnig newid y setiau o reolau safonol sy’n ymwneud â thrin biowastraff er mwyn:

  • Lleihau digwyddiadau a achosir gan y sector biowastraff, gan gynnwys tanau a niwsans o ran aroglau
  • Gwella perfformiad gwael
  • Gwella cyfraniad at economi fwy cynaliadwy a chylchol
  • Cyfrannu at leihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
  • Cael gwared ar hen setiau o reolau nad ydynt yn cael eu defnyddio

Drwy wneud hyn byddwn yn cyfyngu ar effeithiau negyddol ar iechyd pobl, cymunedau a’r amgylchedd.

Mae rhagor o fanylion am sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn i’w gweld isod:

Lleihau digwyddiadau a gwella perfformiad gwael

Adolygwyd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n nodi bod achosion digwyddiadau a pherfformiad gwael yng Nghymru a Lloegr yn bennaf o ganlyniad i’r canlynol:

  • Dylunio annigonol a safonau adeiladu gwael
  • Diffyg rheoli’r broses weithredol
  • Methu â chael neu ddilyn system reoli mewn ffordd effeithiol
  • Systemau cynnal a chadw diffygiol
  • Gwiriadau cyn-derbyn a derbyn annigonol, gan gynnwys lefelau annerbyniol o halogiad porthiant anifeiliaid

Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y canlynol:

  • Adolygu’r ymatebion i ymgynghoriad galwad am dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2018
  • Adolygu data cydymffurfio ar safleoedd peirianwaith treulio anaerobig a safleoedd compostio

Cyfrannu at economi gynaliadwy a chylchol

Mae adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn.

Ein hamcanion ni yw:

  • Cynyddu’r defnydd o wastraff bwyd fel adnodd
  • Disodli gwrtaith cemegol trwy adfer gwastraff

fel y nodir yn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer economi gylchol:

Byddwn hefyd yn ymdrechu i gyflawni amcanion y llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr (yn benodol y rhai sy’n gysylltiedig â’r sector gwastraff a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) fel y nodir yn:

Lleihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd

Gall y sector hwn gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:

  • Lleihau’r dirywiad yn ansawdd pridd
  • Dal a storio carbon
  • Cynhyrchu ynni o beirianwaith treulio anaerobig

Fodd bynnag, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau:

  • Bod allyriadau fel arogl, bioaerosolau, nwyon tŷ gwydr ac amonia yn cael eu rheoli
  • Nad oes unrhyw risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid

 

Pam bod eich barn yn bwysig

I bwy fydd hwn o ddiddordeb?

Credwn y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r partïon canlynol:

Gweithredwyr rheolau safonol ar gyfer safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Gweithredwyr, cymdeithasau masnach a busnesau eraill: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Rheoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau anllywodraethol sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl, wrth barhau i fod yn ddefnyddiol i’r diwydiant.

 

Deiliaid presennol

Os ydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd o dan reolau safonol sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn, o ganlyniad i unrhyw newidiadau a wneir, bydd gofyn i chi gymryd un o’r camau canlynol:

  1. Uwchraddio’ch safle i fodloni’r safonau a osodwyd gan y rheolau newydd.
  2. Gwneud cais i amrywio’ch gweithgaredd i drwydded bwrpasol.
  3. Gwneud cais i ildio’r drwydded.

Pwysig: Hyd yn oed os yw gweithredwr wedi rhoi’r gorau i weithredu, neu heb erioed ddechrau gweithredu, bydd ffioedd cynhaliaeth yn parhau i gronni nes bod ei drwydded yn cael ei hildio’n ffurfiol. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwneud cais i ganslo (ildio) trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni.

Mae’r penawdau canlynol yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig ynghyd â’r rhesymau drostynt. Awgrymwn eich bod yn cymharu’r setiau o reolau safonol cyfredol â’r drafftiau arfaethedig yn adran ddolenni’r ymgynghoriad hwn.

Setiau o reolau safonol wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo

SR2008 Rhif 19: safle triniaeth fiolegol, gemegol a ffisegol slwtsh nad yw’n beryglus

Ar hyn o bryd mae gan y drwydded hon un deiliad. Mae’r drwydded hon ar gael i ymgeiswyr newydd ar hyn o bryd; fodd bynnag, rydym yn cynnig tynnu’r drwydded hon yn ôl a’i harchifo fel nad ydyw ar gael i ymgeiswyr newydd mwyach.

Credwn y bydd tynnu’n ôl ac archifo’r set olaf o reolau safonol sydd ar gael yn cyfrannu at gyflawni amcanion yr ymgynghoriad hwn. 

Oherwydd y defnydd isel o’r set reolau hon, fel y dangosir gan y nifer fach iawn o ddeiliaid trwyddedau gweithredol, nid ydym yn rhagweld llawer o effaith ar fusnes.

Bydd angen i ymgeiswyr newydd sy’n ceisio am drwydded i ymgymryd â gweithgaredd newydd ar safle newydd gael trwyddedau pwrpasol a fydd yn sicrhau bod trwyddedau yn y dyfodol wedi’u teilwra i’r anghenion gweithredol penodol, ffrydiau gwastraff, a lleoliad safle gweithrediadau penodol a fydd yn sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli a’u lliniaru’n ddigonol.

Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau eraill i’r set o reolau hon.

 

Give us your views

Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 10 Gorff 2025. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Forest Management
  • Woodland Opportunity Map users
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Gwent
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • River restoration
  • Adfer afonydd
  • Water Resources
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Designated Landscapes
  • Tirweddau dynonedig
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • EPR and COMAH facilities
  • Natur am Byth!

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Waste