Ymgynghoriad ar reolau safonol: adolygiad o reolau safonol ar gyfer compostio mewn rhenciau agored (SR2008_Rhif 16)
Trosolwg
Mae’r ymgynghoriad hwn yn digwydd fel rhan o adolygiad ehangach o holl setiau o reolau safonol Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn y sector trin biowastraff, sy’n cynnwys yr holl weithgareddau compostio, treulio anaerobig a thrin slwtsh carthion.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:
- Ychwanegu a chael gwared ar fathau penodol o wastraff i gyd-fynd â safonau a gofynion y diwydiant
- Gwella technegau gweithredu i sicrhau bod safleoedd yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant
- Ychwanegu a diweddaru amodau
- Tynnu’n ôl ac archifo setiau o reolau safonol
Mae’r asesiad risg generig cysylltiedig hefyd wedi’i adolygu mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig.
Cyn i ni wneud hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori am gyfnod o dri mis i ganiatáu i’r cyhoedd, diwydiant, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion. Rhaid inni ddarparu manylion ynghylch pam y gwneir y newidiadau hyn, ynghyd â chyfiawnhad.
Rydym yn cynnig newid y setiau o reolau safonol sy’n ymwneud â thrin biowastraff er mwyn:
- Lleihau digwyddiadau a achosir gan y sector biowastraff, gan gynnwys tanau a niwsans o ran aroglau
- Gwella perfformiad gwael
- Gwella cyfraniad at economi fwy cynaliadwy a chylchol
- Cyfrannu at leihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
- Cael gwared ar hen setiau o reolau nad ydynt yn cael eu defnyddio
Drwy wneud hyn byddwn yn cyfyngu ar effeithiau negyddol ar iechyd pobl, cymunedau a’r amgylchedd.
Mae rhagor o fanylion am sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn i’w gweld isod:
Lleihau digwyddiadau a gwella perfformiad gwael
Adolygwyd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n nodi bod achosion digwyddiadau a pherfformiad gwael yng Nghymru a Lloegr yn bennaf o ganlyniad i’r canlynol:
- Dylunio annigonol a safonau adeiladu gwael
- Diffyg rheoli’r broses weithredol
- Methu â chael neu ddilyn system reoli mewn ffordd effeithiol
- Systemau cynnal a chadw diffygiol
- Gwiriadau cyn-derbyn a derbyn annigonol, gan gynnwys lefelau annerbyniol o halogiad porthiant anifeiliaid
Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y canlynol:
- Adolygu’r ymatebion i ymgynghoriad galwad am dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2018
- Adolygu data cydymffurfio ar safleoedd peirianwaith treulio anaerobig a safleoedd compostio
Cyfrannu at economi gynaliadwy a chylchol
Mae adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn.
Ein hamcanion ni yw:
- Cynyddu’r defnydd o wastraff bwyd fel adnodd
- Disodli gwrtaith cemegol trwy adfer gwastraff
fel y nodir yn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer economi gylchol:
Byddwn hefyd yn ymdrechu i gyflawni amcanion y llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr (yn benodol y rhai sy’n gysylltiedig â’r sector gwastraff a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) fel y nodir yn:
Lleihau’r effaith ar newid yn yr hinsawdd
Gall y sector hwn gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:
- Lleihau’r dirywiad yn ansawdd pridd
- Dal a storio carbon
- Cynhyrchu ynni o beirianwaith treulio anaerobig
Fodd bynnag, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau:
- Bod allyriadau fel arogl, bioaerosolau, nwyon tŷ gwydr ac amonia yn cael eu rheoli
- Nad oes unrhyw risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
Pam bod eich barn yn bwysig
I bwy fydd hwn o ddiddordeb?
Credwn y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r partïon canlynol:
Gweithredwyr rheolau safonol compostio mewn rhenciau agored: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Gweithredwyr, cymdeithasau masnach a busnesau eraill: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn gweithio i chi a’ch diwydiant, yn ogystal â darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Rheoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau anllywodraethol sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol: Dyma’ch cyfle i sicrhau bod y rheolau diwygiedig yn darparu’r amddiffyniad y mae ei angen ar yr amgylchedd ac iechyd pobl, wrth barhau i fod yn ddefnyddiol i’r diwydiant.
Deiliaid presennol
Os ydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd o dan reolau safonol sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn, o ganlyniad i unrhyw newidiadau a wneir, bydd gofyn i chi gymryd un o’r camau canlynol:
- Uwchraddio’ch safle i fodloni’r safonau a osodwyd gan y rheolau newydd.
- Gwneud cais i amrywio’ch gweithgaredd i drwydded bwrpasol.
- Gwneud cais i ildio’r drwydded.
Pwysig: Hyd yn oed os yw gweithredwr wedi rhoi’r gorau i weithredu, neu heb erioed ddechrau gweithredu, bydd ffioedd cynhaliaeth yn parhau i gronni nes bod ei drwydded yn cael ei hildio’n ffurfiol. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwneud cais i ganslo (ildio) trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni.
Mae’r penawdau canlynol yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig ynghyd â’r rhesymau drostynt. Awgrymwn eich bod yn cymharu’r setiau o reolau safonol cyfredol â’r drafftiau arfaethedig yn adran ddolenni’r ymgynghoriad hwn.
Setiau o reolau safonol wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo<br />Mae
Mae gan y rheolau safonol a nodir yn yr ymgynghoriad hwn ddeiliaid, ond nid ydynt ar gael ar gyfer ceisiadau newydd. Rydym yn galw’r rhain yn rhai sydd ‘wedi’u tynnu’n ôl ac wedi’u harchifo’.
Mae gan set o reolau safonol SR2008 Rhif 16 – Compostio mewn systemau agored, dri deiliad ar hyn o bryd, ac mae dau ohonynt yn anweithredol. Bydd yn parhau i fod ‘wedi’i dynnu’n ôl ac wedi’i archifo’ ac ni fydd ar gael i ymgeiswyr newydd.
Meini prawf safle
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig diweddaru meini prawf lleoliad safle ar gyfer trwyddedau rheolau safonol i gynnwys parthau cadwraeth morol. Mae’r newid hwn yn angenrheidiol gan nad oedd dynodiadau morol ar waith pan ddatblygwyd rhai o’r rheolau safonol hyn yn wreiddiol.
Technegau gweithredu – capasiti’r safle a storfa wrth gefn
Pan fydd cyfleusterau’n gweithredu y tu hwnt i’w dyluniad neu gapasiti’r safle, gall sawl problem godi, yn cynnwys problemau gydag arogl, bioaerosolau ac ansawdd yr allbwn. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnig y dylai’r drwydded nodi’r canlynol:
- Rhaid storio’r holl wastraff a deunyddiau crai yn ddiogel.
- Rhaid rheoli’r holl wastraff sy’n dod i mewn i atal dadelfennu heb ei reoli, gan gynnwys monitro a rheoli’n weithredol y deunydd crai.
- Dylid cael gwared ar fân ddarnau na ellir eu compostio cyn eu prosesu i’r lefel isaf posibl.
- Rhaid lleoli pob ardal storio ac ardal trin ar arwyneb anhydraidd (athreiddedd hydrolig o ddim mwy nag 1 x 10-9 m/s) gyda chymalau adeiladu wedi’u selio.
- Dylid cynnal cynllun draenio ac archwilio, a rhaglen cynnal a chadw ac atgyweirio.
- Dylid gweithredu o fewn dyluniad neu gapasiti safle’r cyfleuster.
- Ni fydd y gweithredwr yn derbyn gwastraff oni bai bod capasiti i’w drin.
Rydym yn cynnig bod gweithredwyr yn asesu ac yn manylu ar eu dyluniad neu gapasiti’r safle o fewn eu system reoli amgylcheddol a chynnwys sut maen nhw’n cyflawni gweithrediad o fewn y terfynau hyn. Rhaid i weithredwyr hefyd ddarparu ar gyfer storio deunydd gorffenedig pan nad yw’r banc tir ar gael, gan sicrhau digon o gapasiti storio ar gyfer compost a dŵr ffo.
Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol, gan y dylai cyfleusterau eisoes fod yn gweithredu o fewn eu dyluniad neu gapasiti’r safle.
Mathau o wastraff
Rydym yn cydnabod bod adfer gwastraff organig er budd pridd yn disodli’r ddibyniaeth ar wrteithiau cemegol ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fawn. Dymunwn i’r diwydiant biowastraff arwain yr economi gylchol. Fodd bynnag, er mwyn ateb y galw a sicrhau pris marchnad uwch, rhaid i’r deunydd allbwn fod o ansawdd cyson i fodloni gofynion cwsmeriaid.
Yn 2017 bu Asiantaeth yr Amgylchedd yn edrych ar broffil cemegol compostiau. Canfuwyd lefelau uchel o amrywiaeth o gemegau. Credwn fod hyn oherwydd bod plastigau a phren gwastraff wedi’i drin yn gemegol yn y deunydd porthiant i anifeiliaid. Buom hefyd yn ystyried slwtsh gwaith trin dŵr gwastraff, gwastraff tanerdai, ffibrau tecstilau a mwydion papur. Daethom i’r casgliad nad oedd y gwastraff hwn wedi’i nodweddu’n ddigonol yn y gorffennol. Nid oedd y diffyg data gan y diwydiant yn cefnogi cynnwys parhaus y ffrydiau gwastraff hyn.
Felly, cynigwyd dileu’r mathau a’r disgrifiadau gwastraff canlynol o’r drwydded rheolau safonol:
- Pren gwastraff â chodau 19 12 07, 20 01 38, a’r holl bren gwastraff sydd wedi’i gynnwys yn is-bennod 03 02, a phennod 17. Bydd pob math o bren gwastraff ôl-ddefnyddwyr ac adeiladu yn cael ei eithrio. Cynghorwyd gynt na ddylid compostio pren gwastraff o ffynonellau cymysg, fel o weithredwyr sgipiau neu safleoedd amwynderau dinesig. Mae’n debygol bod pren gwastraff o’r fath wedi cael ei drin yn gemegol.
- 19 08 05 Slwtsh o waith trin dŵr gwastraff trefol.
- Gwastraff o’r diwydiannau lledr, ffwr a thecstilau (pennod 04).
- 02 07 99 Gwastraff nad yw wedi’i nodi fel arall (sy’n cynnwys plisg brag, egin brag, burum a gweddillion tebyg i furum yn unig), gan fod y gwastraff hwn eisoes wedi’i gynnwys o fewn 02 07 01.
Ac eithrio’r canlynol i gyd:
- Ni ddylai gwastraff pydradwy sydd wedi’i halogi’n sylweddol â halogion na ellir eu compostio, yn enwedig plastig a sbwriel, fod yn fwy nag 1% w/w a rhaid iddo fod mor isel ag y bo’n rhesymol ymarferol.
- Gwastraff yn llawn plâu.
Rhywogaethau estron goresgynnol
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn fygythiad i fioamrywiaeth yng Nghymru, ac o’r herwydd mae rheoliadau ar waith i atal a lleihau effaith cyflwyno a lledaenu anifeiliaid a phlanhigion estron.
Felly, yn ogystal â chlymog Japan, rydym yn cynnig gwella mesurau bioddiogelwch drwy eithrio rhywogaethau goresgynnol eraill a restrir o fewn Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 (deddfwriaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr UE gynt).
Iechyd anifeiliaid
Er mwyn cyd-fynd â rheoliadau iechyd anifeiliaid a sicrhau safonau uchel o ran iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd, rydym yn cynnig gwahardd tail, slyri, gwellt a gwellt gwely wedi’u difetha o ffermydd lle mae gan anifeiliaid glefydau hysbysadwy, fel y nodir yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Lloegr) 2011.
Gwastraff ychwanegol
Rydym hefyd yn cynnig cynnwys y gwastraff canlynol i gyd-fynd â safonau’r diwydiant i helpu i ddatblygu’r farchnad ar gyfer compost ymhellach:
- 15 01 02 Pecynnu plastig – plastigau compostiadwy yn unig, wedi’u hardystio i EN 13432 neu safon gompostiadwy ardystiedig gyfatebol.
- 15 02 03 Amsugnyddion, deunyddiau hidlo neu lieiniau o waith cynhyrchu diodydd alcoholaidd a dialcohol heblaw’r rhai a grybwyllir yn 15 02 02 – dalennau a llieiniau hidlo hopys a wisgi.
- 16 03 06 Gwastraff organig heblaw’r rhai a grybwyllir yn 16 03 05 – cnu gwlân heb ei drin yn unig (heb gynnwys crwyn a chroen).
- 16 10 02 Dyfroedd golchi heb eu trin o lanhau ffrwythau a llysiau ar y fferm yn unig.
- 19 02 03 Gwastraff wedi’i gymysgu ymlaen llaw wedi’i gyfansoddi o wastraff a restrir yn y rheolau safonol hyn yn unig.
- 19 02 06 Slwtsh o driniaeth ffisegol / cemegol heblaw’r rhai a grybwyllir ar 19 02 05 (slwtsh carthion sydd wedi’i basteureiddio a’i sefydlogi o’r blaen yn unig).
- 19 05 01 Gwastraff o drin gwastraff solet yn aerobig.
- 19 06 04 Gweddillion treuliad anaerobig o waith trin gwastraff trefol, ffibr wedi’i wahanu o broses sy’n derbyn mathau o wastraff fel y’u rhestrir yn y rheolau safonol hyn, neu reolau safonol treulio anaerobig yn unig, wedi’u gwneud o sypiau wedi’u pasteureiddio a’u sefydlogi yn flaenorol yn unig ac yn cydymffurfio ag awdurdodiad yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
- 19 06 06 Gweddillion treuliad anaerobig o waith trin gwastraff anifeiliaid a llysiau, ffibr wedi’i wahanu o broses sy’n derbyn mathau o fewnbynnau gwastraff a restrir yn y rheolau safonol hyn, neu reolau safonol treulio anaerobig yn unig, wedi’u gwneud o sypiau wedi’u pasteureiddio a’u sefydlogi yn flaenorol yn unig ac yn cydymffurfio ag awdurdodiad yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
- 19 06 06 Gweddillion treuliad anaerobig o waith trin gwastraff anifeiliaid a llysiau (slwtsh carthion a dreuliwyd yn flaenorol yn unig).
- 20 01 39 Gweddillion treuliad anaerobig o waith trin gwastraff anifeiliaid a llysiau (slwtsh carthion a dreuliwyd yn flaenorol yn unig).
- 20 03 01 Gwastraff cartrefi trefol − gwastraff gardd a gesglir ar wahân yn unig.
Amodau plâu
Gall plâu sy’n deillio o weithgareddau compostio achosi perygl iechyd neu niwsans y tu allan i ffin y safle. Felly, rydym yn cynnig na chaiff y gweithredwr ei ddal yn gyfrifol am dorri’r amod hwn os yw’r mesurau priodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheini a nodir yn y cynllun rheoli plâu a gymeradwywyd, wedi’u cymryd i atal neu, lle nad yw hynny’n ymarferol, i leihau presenoldeb plâu ar y safle.
Amodau atal tân
Gall tanau ddigwydd o ganlyniad i gompostio a storio compost sydd wedi’i reoli’n wael. Er mwyn lleihau’r risg o dân, rydym yn cynnig bod y gweithredwr yn gweithredu cynllun atal tân sy’n atal tanau ac yn lleihau risgiau.
Amodau dychwelyd gwastraff a deunyddiau
Mae eisoes yn ofynnol i weithredwyr gyflwyno ffurflenni gwastraff ar gyfer gwastraff sy’n dod i mewn ac yn gadael y safle. Mae gennym ddata sy’n dangos adferiad compost a gweddillion treuliad anaerobig a ddefnyddir ar dir o dan drwydded offer symudol. Fodd bynnag, nid yw’r data ar hyn o bryd yn adlewyrchu cyfanswm y gwastraff a adferwyd. Gan fod y trwyddedau hyn ar gyfer adfer gwastraff, mae hyn yn cyd-fynd â dangos bod deiliad y drwydded yn gweithredu gweithgaredd adfer.
Er mwyn sicrhau bod data cyflawn ar gael, rydym yn cynnig bod yr holl ddeunydd sy’n gadael y safle, gan gynnwys deunydd ardystiedig, yn cael ei gofnodi a’i adrodd i Cyfoeth Naturiol Cymru bob chwarter mewn fformat a bennir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol. Dylid cadw’r cofnodion hyn am o leiaf ddwy flynedd.
Ni ddylai fod unrhyw gost ychwanegol gan y dylai gweithredwyr fod yn cadw’r cofnodion hyn eisoes i gydymffurfio â gofynion y protocol ansawdd compost.
Amodau hysbysu
Mae amodau hysbysu wedi cael eu diweddaru gyda geiriad diwygiedig i ychwanegu eglurder, ond nid yw rhwymedigaethau’r gweithredwr wedi newid.
Asesiad risg generig
Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau i’r asesiad risg generig.
Cwestiynau
Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 10 Gorff 2025. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Forest Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Water Resources
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
- Natur am Byth!
Diddordebau
- Permits
- Waste
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook