Ymgynghoriad ar ganllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân wedi'u diweddaru (FPMP)

Yn cau 31 Ion 2025

Wedi'i agor 5 Rhag 2024

Trosolwg

Lluniwyd y canllawiau hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn cydweithrediad â'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru).

Mae'n cynrychioli'r mesurau priodol gofynnol sydd eu hangen ar weithredwyr gwastraff i sicrhau bod tanau ar y safle yn cael eu hatal. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i asesu pa mor addas a phriodol yw mesurau atal a lliniaru tân mewn cyfleusterau gwastraff a ganiateir.

Mae ein canllawiau yn seiliedig ar Fforwm Diogelwch ac Iechyd y Diwydiant Gwastraff (WISH) - Lleihau risg tân mewn safleoedd rheoli gwastraff.

I bwy fydd hyn o ddiddordeb

Rydym yn credu y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • Gweithredwyr
  • Cymdeithasau Masnach
  • Busnesau

Dyma'ch cyfle i sicrhau bod y canllawiau'n gweithio i chi a'ch diwydiant.

Croesewir ymatebion hefyd gan reoleiddwyr eraill, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau anllywodraethol sydd â diddordeb mewn materion iechyd dynol ac amgylcheddol.

Pam rydyn ni'n gwneud hyn?

Mae gofynion hygyrchedd yn golygu bod yn rhaid newid fformat presennol ein canllawiau. Rydym wedi ei adolygu a'i ddiweddaru ar yr un pryd. Ein canllawiau cyfredol: Bydd Canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân – Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Gwastraff 16 (GN 016), yn cael ei ddisodli gan y canllawiau hyn, a fydd yn cael eu cyhoeddi fel gwedudalen ar wefan CNC.

Beth ydym ni'n ei wneud

Mae fformat ac ymddangosiad y canllawiau wedi newid yn sylweddol, ac ychwanegwyd rhagor o ganllawiau i adlewyrchu newidiadau yn y diwydiant ers yr adolygiad diwethaf.

Mae'r adran ar gyflenwadau dŵr wedi cael ei ehangu i gynnwys mwy o fanylion am y defnydd o hydrantau a thanciau dŵr ac i gynnwys defnyddio gwlychwr neu ewyn. Mae adrannau ar fatris ïonau lithiwm a llygryddion organig parhaus (POPs) hefyd wedi'u hychwanegu.

Amlygir yr holl ychwanegiadau a newidiadau i'r canllawiau yn y ddogfen ddrafft.

Y diwygiadau a wnaed:

  • Mae'r adran amseroedd storio wedi'i diweddaru i gael gwared ar ronynnau mân a theiars wedi'u prosesu o'r rhestr o ddeunyddiau sydd mewn perygl o hunanlosgi os cânt eu storio am fwy na thri mis. Mae hyn yn unol â'r amseroedd storio uchaf a ganiateir a nodir ar gyfer y mathau hyn o wastraff, sy'n llai na thri mis. 
  • Mae'r adran storio mewn cynwysyddion wedi'i diwygio i gael gwared ar y terfyn capasiti 1,100 ac i ddweud na ddylid pentyrru cynwysyddion cludo.

Bydd y graffiau cyfredol sy'n dangos pellter gwahanu, a gymerwyd o ganllawiau WISH, yn cael eu disodli gan offeryn a fydd yn cyfrifo'r pellteroedd gofynnol. Bydd yr offeryn ar gael unwaith y bydd y canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Mae'r graffiau a'r diagramau a gynhwyswyd yn flaenorol yn GN 016, yn parhau i fod ar gael yng nghanllawiau WISH.

Mae’r drafft ymgynghori ar gael yn y Saesneg yn unig ond unwaith y bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan bydd y canllawiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam bod eich barn yn bwysig

Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i wneud sylwadau ar ein canllawiau sydd wedi eu diweddaru. Rydym yn arbennig o awyddus i gael eich adborth ar y cwestiynau a ganfuwyd drwy’r ddolen Rhowch eich barn. 

Rhowch eich barn

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Waste