Arolwg Rhanddeiliaid y Cod Cefn Gwlad 2025

Yn cau 28 Medi 2025

Wedi agor 6 Awst 2025

Trosolwg

Mae gennym ni yng Nghyfoeth Naturiol Cymru a Natural England ddyletswydd statudol ar y cyd i gyflwyno’r Cod Cefn Gwlad i gynnig arweiniad i bobl sy’n ymweld â chefn gwlad yng Nghymru a Lloegr. Mae gennym ddyletswydd hefyd i gynnig cyngor i berchnogion tir a rheolwyr tir mewn perthynas â mynediad i’w tir.

Hoffem eich gwahodd chi i gwblhau’r arolwg ar-lein hwn am y Cod Cefn Gwlad (y cyfeirir ato’n aml fel ‘y Cod’ yn yr arolwg hwn). Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio gwaith ar y Cod Cefn Gwlad yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol.

Gall yr arolwg gymryd tua 15 munud i’w gwblhau, ond nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn os ydych chi’n brin o amser. Bydd eich atebion yn cael eu cadw’n awtomatig wrth i chi fynd a gallwch ddychwelyd at yr arolwg o fewn pythefnos os oes angen i chi gymryd seibiant cyn cwblhau.

Mae’r arolwg hwn yn canolbwyntio ar gasglu barn rhanddeiliaid presennol, ond mae hefyd yn cynnwys cwestiynau i gynulleidfaoedd newydd posibl nad ydynt efallai mor gyfarwydd â’r Cod. Mae croeso i chi anfon yr arolwg hwn ymlaen at unrhyw un o’ch cysylltiadau y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn rhannu eu barn ar y Cod, yn enwedig os ydych o’r farn y gallai hyn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd posibl ar gyfer y Cod.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i gwblhau’r arolwg. Nid oes unrhyw un o’r cwestiynau yn orfodol – os oes un nad ydych yn dymuno ei ateb, mae croeso i chi neidio drosto a symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.

Rydym yn amlinellu sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu gyda ni drwy Citizen Space mewn hysbysiad preifatrwydd cyffredinol. Yn ogystal, ar gyfer yr arolwg hwn, os dewiswch roi eich manylion cyswllt:

  • Dim ond er mwyn cyfathrebu â chi am y Cod Cefn Gwlad y byddwn yn defnyddio’r manylion hyn.
     
  • Caiff y manylion hyn eu casglu ar sail gyfreithlon ‘budd y cyhoedd’ a byddant yn cael eu storio’n ddiogel ar System Rheoli Dogfennau Cyfoeth Naturiol Cymru a Hyb Cofnodion Natural England. Ni chânt eu cadw am hirach na 5 mlynedd ar ôl diwedd yr arolwg ac yna cânt eu dinistrio.
     
  • Dim ond Tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored Cyfoeth Naturiol Cymru a Grŵp Pobl, Tirwedd, Mynediad a Natur Natural England fydd â mynediad at y data hwn.
     
  • Rydym yn amlinellu manylion pellach am sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwch chi’n ei rhannu gyda ni yn yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr arolwg hwn.

Ar ôl cwblhau’r arolwg, os ydych yn dymuno tynnu’ch data yn ôl, cewch wneud hynny ar unrhyw adeg hyd at y pwynt y caiff y data ei ymgorffori yn y dadansoddiad. Sylwch, os nad ydych wedi rhoi eich manylion cyswllt, ni fydd modd i ni adnabod eich ymatebion ac felly ni fydd modd i ni eu tynnu’n ôl. Gallwch dynnu’ch data yn ôl, a’i hepgor o unrhyw ddadansoddiad terfynol, drwy gysylltu â ni yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn 28 Medi.

Bydd eich ymatebion yn cael eu gwneud yn ddienw ac yn cael eu cyfuno â rhai cyfranogwyr eraill yr arolwg. Yna byddant yn cael eu dadansoddi a bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y prosiect yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os oes gennych unrhyw bryderon am yr ymchwil, cysylltwch â joseph.conran@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os oes gennych gwestiynau am sut caiff eich data personol ei ddefnyddio yn Cyfoeth Naturiol Cymru, cysylltwch â’n Tîm Diogelu Data dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ffoniwch 0303 123 1113 neu anfonwch e-bost at icocasework@ico.org.uk 

Cyn cychwyn

Drwy ymateb i unrhyw un o gwestiynau’r arolwg, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi darllen, deall ac ystyried y wybodaeth a rennir yma am yr hyn y bydd eich cyfranogiad yn ei olygu a sut byddwn yn trin eich data, gan gynnwys fel yr amlinellir yn ein hysbysiad preifatrwydd, a’ch bod yn cydsynio i gymryd rhan yn yr arolwg hwn ar y sail hon.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • National Access Forum

Diddordebau

  • National Access Forum