Arolwg y Cod Cefn Gwlad a'r Llwybrau Cenedlaethol 2025

Yn cau 9 Tach 2025

Wedi agor 9 Hyd 2025

Trosolwg

Croeso i Arolwg y Cod Cefn Gwlad a’r Llwybrau Cenedlaethol. 

Rydym am sicrhau bod y Cod Cefn Gwlad a’r Llwybrau Cenedlaethol yn ddeniadol i chi, y cyhoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England wedi cynnal ymgyrchoedd amryfal dros y blynyddoedd, ac rydym am sicrhau bod unrhyw waith yn y dyfodol yn diwallu eich anghenion.

Diben yr ymchwil hwn yw rhoi tystiolaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England ynghylch sut mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r Cod Cefn Gwlad a’r Llwybrau Cenedlaethol.

Drwy gasglu eich data, byddwn yn cael cipolwg ar sut rydych chi’n ymgysylltu, pa fath o gynnwys sy’n eich ysbrydoli, a’ch barn ar yr hyn sydd gan y ddau frand i’w gynnig ar hyn o bryd. 

Bydd yr arolwg yn gofyn cwestiynau penodol am sut yr ydych yn rhyngweithio â chynnwys sy’n seiliedig ar natur, y Cod Cefn Gwlad a’r Llwybrau Cenedlaethol. Yn wahanol i arolwg rhanddeiliaid y Cod Cefn Gwlad, bydd hwn yn canolbwyntio’n llwyr ar ymgysylltu ac ymwybyddiaeth. Gofynnir cwestiynau amlddewis i chi, ynghyd â rhai cwestiynau lle gallwch roi atebion mwy manwl.

Dylai’r arolwg gymryd rhwng pum a deg munud, yn dibynnu a ydych chi’n ychwanegu gwybodaeth ychwanegol. 

Bydd eich ymatebion yn cael eu cofnodi’n ddienw a’u crynhoi ag ymatebion cyfranogwyr eraill yr arolwg. Yna byd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn cael eu rhannu’n fewnol ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Drwy barhau â’r arolwg hwn, rydych chi’n rhoi eich caniatâd i ni gasglu gwybodaeth am eich ystod oedran, eich ethnigrwydd a’ch lleoliad (rhanbarth). Rydych hefyd yn rhoi caniatâd i ni adrodd ar unrhyw safbwyntiau a rennir gennych yn ystod yr arolwg. 

Yna bydd y data o’r arolwg hwn yn cael eu crynhoi a’u cyflwyno ar ffurf adroddiad ac asedau creadigol.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan, ni fyddwch dan anfantais mewn unrhyw ffordd.

Er bod rhai cwestiynau yn yr arolwg yn orfodol i’n helpu i ddeall eich ymgysylltiad â’n gwaith (nid oes atebion cywir nac anghywir), mae hawl gennych i dynnu’n ôl o’r arolwg ar unrhyw adeg, heb ddarparu ymatebion.

Gellir cadw eich atebion wrth i chi fynd ymlaen ac os oes angen i chi gymryd seibiant yng nghanol y broses gallwch ddychwelyd i’r arolwg cyn y dyddiad cau.

Os ydych yn dewis gadael yr arolwg cyn cyflwyno eich atebion, bydd hyn yn cael ei ddehongli fel tynnu’n ôl o’r ymchwil. Mewn achosion o’r fath, bydd unrhyw ymatebion a ddarperir yn cael eu heithrio o’r dadansoddiad terfynol a’u dileu’n barhaol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y Cod Cefn Gwlad yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Rhowch y teitl ‘Arolwg y Cod Cefn Gwlad a’r Llwybrau Cenedlaethol 2025’ i’ch e-bost. 

Nodir sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu gyda ni drwy Citizen Space mewn hysbysiad preifatrwydd cyffredinol.

Mae copi o hysbysiad preifatrwydd yr arolwg hwn ar gael gael yma.

This survey is also available in English.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Ymgysylltu cymunedol