Cyhoeddiad O Fwriad I Beidio  Pharatoi Datganiad Amgylcheddol: Rhaglen Ysgol Lyswennod Gogledd Cymru

Ar gau 28 Mai 2024

Wedi'i agor 30 Ebr 2024

Trosolwg

Cyhoeddiad O Fwriad I Beidio  Pharatoi Datganiad Amgylcheddol Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir)  SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

Rhaglen Ysgol Lyswennod Gogledd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella cored hydrometrig Pont y Capel ar Afon Alun ger Llai, Wrecsam, NGR SJ 33526 54047.

Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: Adeiladu ysgol lyswennod dros y gored fesur a darparu grisiau mynediad i archwilio a chynnal yr ysgol lyswennod newydd. Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn uwch na'r trothwy/meini prawf cymwys yng Ngholofn 2 Atodlen 2 y Rheoliadau Asesiad o Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â datblygiad categori 10(h). Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn dod o fewn 'ardal sensitif' fel sy’n cael ei ddiffinio gan y Rheoliadau Asesiad o Effaith Amgylcheddol.  Felly, nid oes angen sgrinio’r datblygiad arfaethedig o dan y Rheoliadau Asesiad o Effaith Amgylcheddol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â nhw. Cynhyrchwyd Adroddiad Amgylcheddol sy'n cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ar gyfer y safle hwn, gan grynhoi'r camau sydd eu hangen i weithredu'r mesurau lliniaru a'r canlyniadau amgylcheddol mewn perthynas â dylunio, adeiladu a gweithredu'r gwaith arfaethedig.  Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r prosiect ac yn cyfeirio at yr holl waith dros dro a pharhaol.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Waste