Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella’r gored Hydrometrig ar Afon Gwyrfai, Bontnewydd, Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 48382 59885.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: Adeiladu ysgol lyswennod dros y gored fesur, atgyweirio ramp graig yr ysgol bysgod a’r difrod i wal ochr y gored. Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn uwch na’r trothwy/meini prawf cymwys yng Ngholofn 2 o Atodlen 2 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn perthynas â datblygiad categori 10(h). Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn dod o fewn ‘ardal sensitif’ fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Felly, nid oes angen sgrinio ar gyfer y datblygiad arfaethedig o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â nhw. Cynhyrchwyd Adroddiad Amgylcheddol sy’n cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ar gyfer y safle hwn, gan grynhoi’r camau sydd eu hangen i weithredu’r mesurau lliniaru a’r canlyniadau amgylcheddol mewn perthynas â dylunio, adeiladu, gweithredu’r gwaith arfaethedig. Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect ac yn cyfeirio at yr holl waith dros dro a pharhaol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook