CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL: Mwynglawdd Metel Esgair Mwyn - Gwaith Atal Erydiad Pentyrrau Sborion
Trosolwg
Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Mwynglawdd Metel Esgair Mwyn - Gwaith Atal Erydiad Pentyrrau Sborion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o’i fwriad i wneud gwaith gwella i lednant afon Nant y Garw ym mwynglawdd plwm segur Esgair Mwyn (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SN7541069320), a leolir tua 2 km i’r gogledd-ddwyrain o Ffair-Rhos.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys y canlynol:
Creu nodweddion rheoli llifogydd naturiol sydd wedi’u cynllunio i atal erydiad a symudiad gwastraff mwyngloddio. Bydd y nodweddion hyn yn cynnwys rhwystrau wedi’u gwneud o lystyfiant wedi’i fwndelu a’i rwymo, wedi’u gosod i’r ddaear gyda pholion pren.
Bydd y gwelliannau yn cael eu cyfyngu i’r pentyrrau sborion yn unig. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud â llaw, gyda mynediad cerbydau wedi’i gyfyngu i draciau fferm.
Bydd tirffurfiau presennol a nodweddion hanesyddol y tomenni sborion mwyngloddio yn cael eu cadw. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar unrhyw ardaloedd hysbys sy’n cynnwys cennau neu fryoffytau prin sy’n gysylltiedig â’r gwastraff mwyngloddio.
O ystyried graddfa fach a natur y gwaith ac absenoldeb safleoedd ecolegol sensitif sy’n bresennol yn yr ardal waith, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod i’r casgliad nad yw’r gwaith gwella arfaethedig yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol sylweddol. Felly, nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â nhw.
Er nad oes bwriad o greu datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle a chafodd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ei baratoi i’w ddefnyddio wrth gyflawni’r prosiect.
Gellir gofyn am wybodaeth EAP a dylunio prosiect gan y cyswllt isod.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Paul Isaac
Plas Gwendraeth
Heol Parc Mawr
Parc Busnes Crosshands
Cross Hands
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA14 6RE
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Unrhyw un o unrhyw gefndir
Diddordebau
- Abstraction Licences
- Acorn Antics / Miri Mes
- Adfer afonydd
- Adfer mwyngloddiau
- Adnoddau Dwr
- Bioamrywiaeth
- Biodiversity
- Climate change adaptation measures
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Consultation
- Customer Experience
- Customer Journey Mapping
- Cynllunio dwr
- Datganiad Ardal De Orllewin
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Dee
- Development
- Dysgu proffesiynnol
- EIA
- Engagement
- Equality, Diversity and Inclusion
- Fforwm Mynediad Cenedlaethol
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Fruitful Orchard Project
- Gwastraff
- Gwent
- Gwerthu Pren
- Gwirfoddoli Cymunedol
- IMPEL Network
- Landscapes
- Llais Rheoleiddio
- Llifogydd
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Newport Green and Safe Spaces
- Permits
- Professional learning
- Pysgota
- Regulatory Voice
- resources
- Rheoli Coedwig
- river basin planning
- River restoration
- SoNaRR2020
- South West Area Statement
- Species Licence
- Stakeholder Management
- Strategic review of charging
- Terrestrial ecosystems and species
- The Hub
- Timber sales
- Tirweddau
- Trwydded Rhywogaeth
- Trwyddedau
- Waste
- water framework directive
- water planning
- Water Resources
- WFD
- Woodland Opportunity Map
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
- Ymgysylltu cymunedol
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook