Hysbysiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol - Merthyr Weir

Ar gau 19 Ebr 2024

Wedi'i agor 22 Maw 2024

Trosolwg

Rheoliad 12B Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Rheoliadau Diwygio) 2017/585

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella Cored Merthyr ar Afon Taf, Merthyr Tudful, NGR - SO 04310 06798.

Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys atgyweirio darnau o strwythur y gored, gosod grisiau mynediad at sianel yr afon a gosod ysgol bysgod ar wyneb y gored.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er na fwriedir gwneud datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo’n bosibl.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Flooding

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Waste