Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella’r amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Wysg yng Nghaerllion, Casnewydd ar Ffordd Caerllion - B4596 rhwng NGR ST3417190147 a NGR ST34184 90147, sef pellter o 0.014 cilometr. Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: Gosod rhwystr llifogydd newydd dros dro (sylfeini concrit sy'n cynnal padiau dur) i groesi'r ffordd yn y lleoliad uchod.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol cysylltiedig ag ef. Er nad oes datganiad amgylcheddol yn cael ei gynnig mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â'r safle a gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n ymarferol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook