Gwelliannau Diogelwch Cronfeydd Dŵr Gwydir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella tair cronfa ddŵr yng Nghoedwig Gwydir. Y cronfeydd yw Llyn Goddionduoun (SH752 583), Llyn Tynymynydd (SH767 589) a Llyn Cyfty (SH773 590).
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys atgyweirio gorlifannau cyfredol, gosod pridd uchaf mewn mannau, gosod blychau telemetreg bach gyda synwyryddion monitro lefel y dŵr, camerâu a reolir o bell wedi’u hanelu at y cwrs dŵr, a gosod marcwyr arolygu. Mae'r tri safle yn dod o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Cynhyrchwyd Adroddiad Amgylcheddol yn cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ar gyfer y tri safle, gan grynhoi'r camau gweithredu sydd eu hangen i weithredu'r mesurau lliniaru amgylcheddol a'r canlyniadau mewn perthynas â dylunio, adeiladu a gweithredu'r gwaith arfaethedig. Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r prosiect ac yn cyfeirio at yr holl waith dros dro a pharhaol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook