Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol: Gwaith Symud Cored Llanfair Talhaearn

Ar gau 16 Meh 2024

Wedi'i agor 17 Mai 2024

Trosolwg

Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

Gwaith Symud Cored Llanfair Talhaearn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella Afon Elwy yn Llanfair Talhaearn, Conwy LL22 8YU, NGR 93055 70474.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys y canlynol: cael gwared o’r gored bresennol, gwaith sefydlogi glannau lleol a mesurau lliniaru erydiad. Mae’r gwaith yn rhan o’n Rhaglen Eogiaid Yfory ac unwaith y bydd wedi’i chwblhau bydd yn caniatáu i’r afon ddychwelyd i’w chyflwr naturiol, fel bo pysgod yn gallu cyrraedd 20km o gynefin silio o ansawdd uchel i fyny’r afon.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol (EAP) wedi’i gynhyrchu ar gyfer y safle hwn, sy’n crynhoi’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi’r mesurau lliniaru amgylcheddol ar waith, ac mae i’w gael ar gais drwy’r manylion cyswllt isod.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine planners

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Waste