SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd Gwaith Draenio Cronfa Ddŵr Bwlch Nant yr Arian Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwelliannau i Waith Draenio Cronfa Ddŵr Bwlch Nant yr Arian, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys gosod draen meitr ffurfiol i lawr yr afon o’r gronfa ddŵr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes datganiad amgylcheddol yn cael ei gynnig, mae’r ffordd y cafodd y cynllun ei ddylunio wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo hynny’n ymarferol.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Alexia Dimitriou,
Rheolwr Prosiect
Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni
alexia.dimitriou@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Share
Share on Twitter Share on Facebook