Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella Gorsaf Fesur a Strwythur Cored Fiddler’s Elbow ar yr Afon Taf, Merthyr Tudful, NGR - ST 08914 95158.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ar yr orsaf fesur, gwaith atgyweirio ar strwythur y gored, gosod grisiau mynediad at sianel yr afon a gosod ysgol bysgod ar wyneb y gored.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er na fwriedir gwneud datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo’n bosibl.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, wneud hynny’n ysgrifenedig, a’u hanfon at y cyfeiriad e-bost isod, o fewn 28 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Alexia Dimitriou, Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni
alexia.dimitriou@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Share
Share on Twitter Share on Facebook