Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella i Gronfa Ddŵr Newpool, (NGR: SO 15020 86975) ger ffordd B4368, Ceri, Powys, Cymru, SY16 4PE.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn bennaf yn golygu, ymhlith pethau eraill, gosod gorlifan newydd, ac uwchraddio cyfleuster tynnu dŵr i fodloni safonau modern.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer.
Er na chynigir datganiad amgylcheddol, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo hynny’n ymarferol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook