Cynllun Rheoli Risg Naturiol Llanfair Talhaiarn Nant Barrog
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella ar Nant Barrog, i fyny'r afon o Lanfair Talhaiarn rhwng (CGC SH 91938 67627 (i fyny'r afon) a CGC SH 92134 68018 (i lawr yr afon).
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: plannu coed ar lannau’r afon, adeiladu argaeau coediog mawr a ffensio’r ardaloedd hyn tra bod y coed yn sefydlu. Bydd y gwaith hwn yn digwydd yn rhan uchaf dalgylch Nant Barrog am 1km ar dir sy'n perthyn i Lwyn Erwyn.
Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn uwch na'r trothwy/meini prawf cymwys yng Ngholofn 2 o Atodlen 2 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn perthynas â datblygiad categori 10(h). Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn dod o fewn 'ardal sensitif' fel y'i diffinnir gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Felly, nid oes angen sgrinio ar gyfer y datblygiad arfaethedig o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Cynhyrchwyd Adroddiad Amgylcheddol yn cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol (EAP) ar gyfer y safle hwn, yn crynhoi'r camau gweithredu sydd eu hangen i weithredu'r mesurau lliniaru amgylcheddol a'r canlyniadau mewn perthynas â dylunio, adeiladu a gweithredu'r gwaith arfaethedig. Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r prosiect ac yn cyfeirio at yr holl waith dros dro a pharhaol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook