Cyhoeddiad O Fwriad I Beidio  Pharatoi Datganiad Amgylcheddol: Rhaglen Ysgol Lyswennod Gogledd Cymru
Trosolwg
Cyhoeddiad O Fwriad I Beidio  Pharatoi Datganiad Amgylcheddol Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Rhaglen Ysgol Lyswennod Gogledd Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella'r gored hydrometrig ar afon Clwyd yn Rhuthun, NGR SJ 12185 59214.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: Adeiladu ysgol lyswennod dros y gored fesur a grisiau mynediad newydd i gynorthwyo’r gwaith o gynnal a chadw'r gored a'r ysgol lyswennod newydd. Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn uwch na'r trothwy/meini prawf cymwys yng Ngholofn 2 Atodlen 2 y Rheoliadau Asesiad o Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â datblygiad categori 10(h). Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn dod o fewn 'ardal sensitif' fel sy’n cael ei ddiffinio gan y Rheoliadau Asesiad o Effaith Amgylcheddol.
Felly, nid oes angen sgrinio ar gyfer y datblygiad arfaethedig o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Cynhyrchwyd Adroddiad Amgylcheddol yn cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol (EAP) ar gyfer y safle hwn, yn crynhoi'r camau gweithredu sydd eu hangen i weithredu'r mesurau lliniaru amgylcheddol a'r canlyniadau mewn perthynas â dylunio, adeiladu a gweithredu'r gwaith arfaethedig. Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r prosiect ac yn cyfeirio at yr holl waith dros dro a pharhaol.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn.
Sherron Kitchen
Rheolwr Prosiect (Cyflawni Cynlluniau)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
Sir Y Fflint
CH7 3AJ
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
Diddordebau
- Llais Rheoleiddio
- Permits
- Regulatory Voice
- Trwyddedau
- Waste
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook