Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol: Atgyweiriadau a gwaith gwella Sianel Osgoi Glascoed

Ar gau 16 Meh 2024

Wedi'i agor 17 Mai 2024

Trosolwg

Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

Atgyweiriadau a gwaith gwella Sianel Osgoi Glascoed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella i Sianel Osgoi Glascoed ar Afon Cynllaith yn Llansilin, Powys SY10 7QB (NGR SJ 21688 28205).

Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys y canlynol: Addasiadau i strwythur mewnlif y sianel osgoi bresennol a gwaith adfer cysylltiedig. Adeiladwyd y sianel osgoi fel bo pysgod yn gallu teithio o amgylch Cored Glascoed.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol (EAP) wedi’i gynhyrchu ar gyfer y safle hwn, ac mae’n crynhoi’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi’r mesurau lliniaru amgylcheddol ar waith, ac mae ar gael ar gais drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine planners

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Waste