Fframwaith Coedyddiaeth, Llifau Cadwyn a Diogelwch Coed Cyfoeth Naturiol Cymru
Overview
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i gael mewnbwn ac adborth gan gyflenwyr o ran adnewyddu ei fframwaith Coedyddiaeth a Llifau Cadwyn presennol. Bydd yr holl wybodaeth ac adborth a dderbynnir gan gyflenwyr yn ein galluogi i ddeall y farchnad allanol yn well ac, yn y pen draw, gall ein helpu ni i gynllunio'r Fframwaith newydd rydym yn bwriadu ei roi ar waith.
Mae unrhyw gwestiynau sydd â * wrthynt yn orfodol. Mae'r holiadur ymchwil i'r farchnad hwn yn cael ei gyhoeddi i roi gwybod i'r farchnad am gyfle tendro sydd ar ddod. Nid cais am gystadleuaeth mohono.
PWYSIG: bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel, ni fydd yn cael ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti, bydd yn cael ei chadw am gyfnod cyfyngedig o amser, a dim ond mewn cysylltiad â'r prosiect hwn y caiff ei defnyddio.
Darllenwch fwy am sut rydym yn rheoli gwybodaeth amdanoch chi yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
What happens next
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall y farchnad allanol ac yn sicrhau y bydd y Fframwaith y byddwn yn ei greu yn y pen draw yn addas i’r diben, i CNC ac i chi fel cyflenwyr.
Bydd hefyd yn ein galluogi i ddeall unrhyw faterion sy’n codi yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu, er mwyn eu harchwilio ymhellach a deall eu heffeithiau posibl yn y dyfodol.
Areas
- All Areas
Audiences
- Management
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook