Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais am drwydded amgylcheddol bwrpasol newydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, i weithredu cyfleuster newydd ar gyfer swmpio deunydd nad yw'n beryglus o gasgliadau wrth ymyl y ffordd. Maent yn cynnig derbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell y flwyddyn o wastraff nad yw'n beryglus, gydag uchafswm o 425 tunnell ar y safle ar unrhyw un adeg cyn cael ei drosglwyddo oddi ar y safle i gael ei brosesu neu waredu ymhellach.
Gwrthodwyd cais blaenorol gan Gyngor Sir Powys (PAN-013001) y llynedd. Darllenwch pam y gwrthodwyd y cais.
Mae'r cais newydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i'w hasesu. Darllenwch amlinelliad o'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Sir Powys.
Yr unig ‘driniaeth’ o’r gwastraff fyddai swmpio deunyddiau a fyddai'n cyrraedd eisoes wedi ei ddidoli, felly ni fydd gwastraff yn cael ei wahanu ar y safle.
Rydym wedi cwblhau ein hasesiad technegol ac wedi dod i benderfyniad cychwynnol ein bod yn bwriadu dyroddi'r drwydded. Byddai hyn yn caniatáu i Gyngor Sir Powys weithredu'r safle fel y nodir yn eu cais.
Cyn gwneud penderfyniad terfynol, rydym yn ymgynghori ar ein penderfyniad cychwynnol a thrwydded ddrafft. Mae hyn er mwyn esbonio'r penderfyniad i'r cyhoedd ac eraill sydd â diddordeb, a rhoi'r cyfle iddynt wneud sylwadau perthnasol ar ein penderfyniad cychwynnol.
Gallwch ddarllen y Drwydded ddrafft a'r Ddogfen Benderfyniad ddrafft ar waelod y dudalen hon.
Credwn ein bod wedi ystyried yr holl faterion perthnasol ac wedi dod i gasgliad rhesymol. Byddwn yn dyroddi'r drwydded yn ei ffurf bresennol oni bai ein bod yn derbyn gwybodaeth berthnasol newydd sy’n ein harwain i newid yr amodau yn y drwydded ddrafft, neu i wrthod y cais yn gyfan gwbl.
Mae ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd yn crynhoi ein cylch gwaith rheoleiddiol; yr hyn y gallwn ac na allwn ei ystyried. Darllenwch ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.
Gallwn ystyried y canlynol gan eu bod yn ein cylch gwaith cyfreithiol:
Mae yna nifer o ffactorau nad ydynt yn dod o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol, ac ni allwn wneud na seilio penderfyniadau arnynt. Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am:
Mae oriau gweithredu yn fater polisi i'r llywodraeth.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ddydd Gwener 2 Mehefin 2023 ac yn rhedeg am gyfnod o bedair wythnos, gan gau ddydd Gwener 30 Mehefin 2023. Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwn ac yn dod i benderfyniad terfynol yn fuan ar ôl i'r ymgynghoriad gau.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau perthnasol ar y drwydded ddrafft a dogfen y penderfyniad cychwynnol. Mae dogfen y penderfyniad yn:
Oni bai bod dogfen y penderfyniad yn nodi fel arall, rydym wedi derbyn cynnig yr ymgeisydd.
Gallwch edrych ar y dogfennau cais am ddim ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Ewch i’r gofrestr gyhoeddus. Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho rhaglenni meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein – er enghraifft, os nad yw eich system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol gallwch ofyn am gopi o’r cais gennym ni. Sylwch y gall ceisiadau gymryd amser i'w prosesu.
Ystyriwch y wybodaeth yn y ddogfen benderfynu ddraft, y drwydded ddrafft, y gofrestr gyhoeddus a'r datganiad cyfranogiad cyhoeddus cyn ymateb i'r ymgynghoriad.
Share
Share on Twitter Share on Facebook