Ymgynghoriad ar benderfyniad drafft i amrywio trwydded yng Nghyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Nine Mile

Ar gau 26 Medi 2022

Wedi'i agor 30 Awst 2022

Trosolwg

Ym mis Tachwedd 2021 cawsom gais (PAN – 016095) gan Drumcastle Limited, i amrywio trwydded amgylcheddol bresennol ar gyfer y cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point, Cwmfelinfach, Caerffili.

Mae'r amrywiad i'r drwydded yn cynnig dileu'r hylosgiad o nwy naturiol a ddefnyddir i sychu gwastraff. Mae hefyd yn cynnig defnyddio hidlydd carbon wedi'i actifadu, a fyddai'n helpu i leihau'r arogleuon posibl a ryddheir o'r safle.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill eleni, lle buom yn ystyried yr holl sylwadau perthnasol, rydym bellach wedi cwblhau asesiad technegol trylwyr a phenderfyniad ar y cais ac rydym yn bwriadu caniatáu’r newidiadau arfaethedig i’r drwydded a chyhoeddi’r amrywiad.

Er nad yw'r safle'n weithredol eto, mae Drumcastle Limited ar hyn o bryd yn dal trwydded amgylcheddol ar gyfer trin gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol nad yw'n beryglus i gynhyrchu tanwydd solet wedi'i adfer a thanwydd sy'n deillio o sbwriel. 

Trosglwyddwyd y drwydded amgylcheddol bresennol yn llwyddiannus o Hazrem Environmental i'r gweithredwyr newydd Drumcastle Limited ym mis Ionawr 2022 yn dilyn y gwiriadau angenrheidiol.

Ar beth rydym yn ymgynghori?

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, rydym yn cynnal ail ymgynghoriad cyhoeddus, i roi cyfle i bobl weld y ddogfen penderfyniad drafft a chodi unrhyw bryderon neu ddwyn i'n sylw unrhyw wybodaeth berthnasol nad ydym eisoes wedi'i hystyried wrth wneud ein penderfyniad drafft.

Dim ond os credwn fod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu'r amrywiad i'r drwydded. Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a'r amgylchedd

Sylwch, dim ond materion sydd o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR) y gallwn eu hystyried. 

Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i ni roi trwydded (neu newid i drwydded) os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni, a bod y Gweithredwr yn gallu dangos ei fod yn gallu cyflawni'r gweithgaredd heb risg sylweddol i'r amgylchedd neu iechyd dynol. .

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Gwybodaeth am Gyfranogiad y Cyhoedd

Pa wybodaeth sydd ar gael?

Gallwch weld y ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. 

Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gall fod tâl.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 30 Awst 2022 a 26 Medi 2022.

Ardaloedd

  • Ystrad Mynach

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Permits