Newid i drwydded amgylcheddol ar gyfer Fferm Rhosddu

Yn cau 14 Awst 2025

Wedi agor 10 Gorff 2025

Trosolwg

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English

Mae Martyn Langford wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid y drwydded amgylcheddol ar gyfer Fferm Rhosddu (rhif trwydded EPR/AB3095HL).

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rydym wedi asesu'r cais ac rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad. Rydym bellach yn ymgynghori ar ein penderfyniad drafft.

Manylion y Cais

Gweithredwr: Martyn Langford

Cyfeirnod y cais: PAN-025564

Math o gyfleuster rheoledig: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, gosodiad Atodlen 1, Rhan 1, Adran 6.9 A(1)(a)(i) - Magu dofednod neu foch yn ddwys mewn gosodiad sydd â mwy na: (i) 40,000 o leoedd ddofednod.

Cyfeiriad y safle: Rhosddu, Llansantffraid-ym-Mechain, Powys, SY22 6TH

Mae'r gweithredwr wedi cynnig y newidiadau canlynol i'w drwydded:

  • cynnydd yn nifer y lleoedd dofednod o 56,000 i 64,000.
  • disodli’r sied (clwydfa) dec fflat ar gyfer 16,000 o adar gyda system gasglu tail dwfn gyda sied aml-haen ar gyfer 24,000 o adar gyda belt casglu tail.

Ein penderfyniad drafft

Rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiad i’r drwydded.  Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.

Pam bod eich barn yn bwysig

Dyma'ch cyfle i adolygu ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.

Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Mae'r dogfennau hyn hefyd ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os hoffech gyflwyno eich sylwadau drwy e-bost, cysylltwch â permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Give us your views

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Permits
  • Trwyddedau