Knauf Shotton – Ymgynghoriad Cais Cychwynnol
Trosolwg
Mae Knauf Insulation Limited wedi cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am drwydded amgylcheddol newydd ar gyfer Knauf Shotton.
Mae'r gofyniad i gael trwydded yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym yn ceisio sylwadau ar y cais hwn.
Manylion y cais
Cyfeirnod y cais: PAN-033018
Math o gyfleuster rheoledig: Adran 3.4 Rhan A(1) (a) Toddi sylweddau mwynol gan gynnwys cynhyrchu ffibrau mwynol mewn gweithfeydd sydd â chapasiti toddi sy'n fwy na 20 tunnell y dydd.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Knauf Insulation Limited, Knauf Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 2NH
Mae'r cais ar gyfer cyfleuster newydd i weithgynhyrchu gwlân o graig fwynol. Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r weithfa arfaethedig; y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau’r safle; ffynhonnell, natur a swm ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff.
Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad llawn o'r gosodiad arfaethedig.
Gallwch weld dogfennau’r cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk .
Pam mae eich barn yn bwysig
Mae arnom eisiau gwneud y penderfyniad gorau o ran trwyddedu. Mae gwrando ar farn pobl eraill yn ein helpu i ystyried pryderon, neu ffactorau amgylcheddol lleol, na fyddem, o bosibl, yn ymwybodol ohonynt fel arall.
Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cais ac rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos o hyd. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad ar y cais am drwydded.
Gallwch gynnig sylwadau ar y cais drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon. Os cewch unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy anfon e-bost at permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Ymgynghori Ar-lein
Ardaloedd
- Connah's Quay Golftyn
Cynulleidfaoedd
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Trwyddedau
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook