Gwaith Dur Port Talbot - Penderfyniad Drafft PAN-029148.1

Trosolwg

Mae Tata Steel UK Ltd (TSUK) yn newid o gynhyrchu dur integredig (gan ddefnyddio ffwrneisi chwyth a thechnegau gwneud dur ocsigen sylfaenol) i ddefnyddio proses newydd yn seiliedig ar Ffwrnais Arc Drydan (EAF) yng Ngwaith Dur Port Talbot. Fel rhan o'r trawsnewid mawr hwn, mae'r cwmni'n gwneud cais i newid ei drwydded amgylcheddol (trwydded rhif EPR/BL7108IM), a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae trawsnewid safle arfaethedig TSUK yn broses helaeth a chymhleth. Felly, bydd CNC yn defnyddio dull graddol i ddiweddaru trwydded TSUK, sy'n cynnwys sawl hysbysiad amrywio a thrwydded gyfunol lawn ar ddiwedd y broses. Bydd pob cam yn cael ei adolygu ar wahân i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu ac i gynnal uniondeb y drwydded. Er mwyn sicrhau tryloywder ac effeithlonrwydd, rydym wedi neilltuo un Rhif Cais Trwydded (PAN) i bob elfen o gais amrywio TSUK.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar elfen gyntaf cais graddol TSUK, sy'n cyfateb i amrywiad trwydded arferol. Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Rydym yn ceisio eich sylwadau ar ddogfennau drafft y drwydded.

Manylion y Cais

Cyfeirnod y Cais: PAN-029148.1

Math o Gais: Amrywiad arferol i drwydded amgylcheddol (o fewn cais am amrywiad sylweddol graddol, mwy)

Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa – Adran 2.1: Metelau Fferrus – Rhan A(1)(b) Cynhyrchu, toddi neu goethi haearn neu ddur neu unrhyw aloi fferrus, gan gynnwys bwrw parhaus.

Rhif Trwydded Amgylcheddol: EPR/BL7108IM

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gwaith Dur Port Talbot, Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot SA13 2NG

Gweithredwr: Tata Steel UK Ltd

Mae'r amrywiad hwn - V019 o drwydded EPR/BL7108IM - yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Dileu gweithgareddau a ganiateir nad ydynt yn cael eu cynnal mwyach ac na ellir eu hailgychwyn (sy'n gysylltiedig â gwneud dur integredig gan ddefnyddio Ffwrneisi Chwyth a Ffwrneisi Ocsigen Sylfaenol)
  • Atal/rhoi’r gorau i ddefnyddio a chynnal a chadw rhai gweithgareddau a ganiateir na fyddant yn gweithredu yn ystod trawsnewidiad safle TSUK
  • Ychwanegu boeleri cynhyrchu stêm amgen (Gwaith Hylosgi Canolig) i fodloni'r galw gweddilliol ar y safle ar ôl datgomisiynu Gwaith Hylosgi Mawr hŷn sy'n gysylltiedig â gwneud dur integredig

Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a'r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur a maint ei allyriadau rhagweladwy a'u heffaith bosibl, y technegau arfaethedig ar gyfer atal, lleihau a monitro ei allyriadau ac atal ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o'r prif ddewisiadau amgen, os o gwbl, a ystyriwyd.

Nid oes angen ymgynghoriad cyhoeddus fel arfer ar gyfer amrywiadau trwydded arferol. Yn yr achos hwn, rydym yn cydnabod bod PAN-029148.1 wedi’i gysylltu’n agos ag elfennau eraill o drawsnewid safle TSUK, gan gynnwys gweithrediad Ffwrnais Arc Trydan (EAF) yn y dyfodol, ac mae diddordeb cyhoeddus ehangach yn y prosiect trawsnewid diwydiannol mawr hwn. Felly rydym wedi penderfynu ymgynghori ar ein penderfyniad drafft ar gyfer y gydran amrywiad hon. Gwnaed y penderfyniad hwn yn unol â'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR), ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus statudol, a'n Canllawiau Rheoleiddio.

Disgwylir y bydd elfennau a fydd yn cael eu cyflwyno’n raddol yn y dyfodol e.e. Ffwrnais Arc Trydan yn cyfateb i amrywiad sylweddol yn y drwydded. Bydd CNC yn ymgynghori ar geisiadau o'r fath yn unol â'i ddyletswyddau cyfreithiol, fel yr amlinellir yn ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.

Mae ein tudalen ymgynghoriad cyffredinol (gweler 'Cysylltiedig', isod) yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y dull rydym yn ei gymryd ar gyfer y cais graddol hwn, ac yn egluro sut y gallwch wybod beth sy’n digwydd a dweud eich dweud.

Ein penderfyniad drafft

Rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os byddwn yn credu na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi, a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded, y byddwn yn caniatáu amrywiad i drwydded.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. 

Pam mae eich barn yn bwysig

Dyma eich cyfle i edrych ar ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

Cofiwch na allwn ganiatáu'n gyfreithlon i sylwadau ar faterion sydd y tu allan i'n cylch gwaith cyfreithiol ddylanwadu ar ein penderfyniad trwyddedu. 

Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Mae'r dogfennau hyn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein hefyd.

Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os cewch unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy anfon e-bost at permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Ymgynghori Ar-lein - Canolbwyntiedig

Yn cau 13 Tach 2026

Wedi agor 19 Hyd 2026

Ardaloedd

  • Aberavon
  • Baglan
  • Bryn and Cwmavon
  • Cornelly
  • Margam
  • Port Talbot
  • Pyle
  • Sandfields East
  • Sandfields West
  • Tai-bach

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Trwyddedau