Gorchymyn Sychder ar gyfer Afon Hafren

Trosolwg

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English 

Oherwydd y bygythiad o ddiffyg difrifol o ran llifoedd/lefelau yn nalgylch Afon Hafren sy'n peri bygythiad difrifol i'r fflora neu'r ffawna sy'n ddibynnol ar y dyfroedd hynny, fod Asiantaeth yr Amgylchedd (“yr Asiantaeth”) mewn perthynas â Lloegr yn gwneud cais i Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Chymru yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am orchymyn sychder o dan Adran 73 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae'r diffyg yn cael ei achosi gan brinder glaw eithriadol.

Nod y gorchymyn sychder arfaethedig, y bwriedir iddo fod yn berthnasol am hyd at 6 mis, yw cynnal adnoddau dŵr â chymorth ar hyd Afon Hafren gyfan am gyfnod hirach ar symiau is, yn hytrach na mentro rhedeg allan o ddŵr â chymorth ac achosi gostyngiadau sylweddol a sydyn yn lefelau/llif yr afon a fyddai’n rhoi straen ar ecoleg ac yn effeithio ar bysgod mudol. 

Mae Afon Hafren yn cael ei chynnal yn artiffisial gan ollyngiadau o gronfeydd dŵr a dŵr daear y rhan fwyaf o flynyddoedd: 'Rheoleiddio Afon Hafren' yw’r enw ar y broses hon. Eleni, bu angen rhyddhau dŵr yn barhaus ac mewn symiau mawr er mwyn cynnal afon iach. Mae hyn wedi gostwng lefelau dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llyn Clywedog ym mlaen Afon Hafren yng Nghymru i’r trothwyon gweithredu sychder, lefel sy'n gofyn am newidiadau mewn gweithrediadau trwy orchymyn sychder i arbed dŵr.

Beth ydy y Gorchymyn Sychder Afon Hafren yn cynnwys?

  • rhoi terfyn uchaf ar faint o ddŵr y gellir ei ryddhau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog i 300 megalitr y dydd (Ml/d).
     
  • lleihau'r llif penodedig yn Bewdley o gymedr dyddiol sengl o 727 Ml/d ac 850 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod i darged o 730 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod.
     
  • lleihau'r llif penodedig yn Bewdley islaw'r llif targed o 730 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod os na all gollyngiadau Rheoleiddio Afon Hafren gyflawni hyn mwyach.
     
  • gosod gostyngiad o 5% ar faint o ddŵr y gall cwmnïau dŵr dynnu yn ôl eu trwyddedau ar Afon Hafren.
     
  • gosod terfyn tynnu dŵr o 300 Ml/d ar dynnu dŵr yn Nociau Caerloyw ar gyfer Camlas Caerloyw a Sharpness yn Lloegr, pan fydd llifoedd ym mesurydd Deerhurst neu Haw Bridge islaw 1,200 Ml/d.
     
  • gosod terfyn uchaf ar ollyngiadau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog o 1.5% o'r dŵr wedi’i storio sy'n weddill os yw lefel y dŵr wedi’i storio yn Llyn Clywedog yn mynd o dan y trothwy 'storio argyfwng'.

Sut bydd y gorchymyn sychder yn helpu?

Bydd effaith ddisgwyliedig y gorchymyn sychder, os caiff ei ganiatáu, yn gostwng llif a lefelau dŵr ar hyd Afon Hafren er mwyn arbed dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog. Bydd arbed dŵr yn caniatáu i ollyngiadau dŵr barhau am gyfnod hirach i amddiffyn pysgod mudol ac ecoleg yn ystod cyfnod gwaethaf y sychder a sicrhau y gall y gronfa ail-lenwi'n gyflymach i ddarparu gwell amddiffyniad mewn blynyddoedd sych dilynol. Heb y gorchymyn sychder, mae risg y bydd gollyngiadau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog yn dod i ben a gallai rhannau o ran uchaf afon Hafren fod mewn perygl o sychu, gan achosi i’r afon gyfan brofi’r llifoedd isaf erioed a straen amgylcheddol.

Rhagwelir y bydd effeithiau gweithredu Gorchymyn Sychder Afon Hafren yn rhai dros dro ac unwaith y bydd glawiad arferol yn dychwelyd, dylai'r amgylchedd wella'n naturiol ac adfer o fewn un i dair blynedd. Mae hyn yn gyson â’r cyfnod naturiol disgwyledig ar gyfer adfer ar ôl sychder.

Gweler y cais

Gallwch weld dogfennau'r cais gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Rhaid anfon gwrthwynebiadau at Defra a Llywodraeth Cymru drwy e-bost neu yn ysgrifenedig:

water.resources@defra.gov.uk a dwr@llyw.cymru

Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, c/o Water Resources Policy, Department for Environment, Food and Rural Affairs, Seacole 3rd Floor, 2 Marsham Street, London, SW1P 4DF.

Y Gangen Dŵr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Dylid gwneud gwrthwynebiadau ar unwaith ac ym mhob achos rhaid eu derbyn erbyn 5pm ar 25 Awst 2026 fan bellaf. Dylai'r ymateb amlinellu a ydych chi'n gwneud gwrthwynebiad ffurfiol i'r cynnig a'r sail dros y gwrthwynebiad.

Yn cau 25 Awst 2026

Wedi agor 17 Awst 2026

Ardaloedd

  • Newtown Central

Cynulleidfaoedd

  • Water Planning
  • Water Resources

Diddordebau

  • Abstraction Licences
  • Water Planning
  • water planning
  • Water Resources