Ar 31 Mai 2024 derbyniodd CNC gais am drwydded forol gan Mona Offshore Wind Limited ar gyfer gwaith cysylltiedig ag adeiladu a chynnal asedau trosglwyddo Prosiect Fferm Wynt Ar y Môr Mona sydd yn Nwyrain Môr Iwerddon.

Mae'r Asedau trosglwyddo yn cynnwys ceblau allforio, ceblau rhyng-gysylltydd a llwyfannau is-orsaf. Mae'r ceblau allforio arfaethedig yn cyrraedd y tir yn Llanddulas, Gogledd Cymru.

Y tu allan i gwmpas y cais hwn am Drwydded Forol mae'r Asedau Cynhyrchu (sy'n cynnwys y tyrbinau gwynt) a'r coridor cebl allforio ar y tir sy'n ymestyn o'r man glanio i'r is-orsaf ar y tir.

Dylech fod yn ymwybodol bod Mona Offshore Wind Limited, yn ogystal â'r cais am drwydded forol, wedi cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) sy'n cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar hyn o bryd, mae'r DCO arfaethedig yn cynnwys Trwydded Forol dybiedig ar gyfer yr Asedau Cynhyrchu.

Mae rhagor o wybodaeth am y cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. 

Bydd y cais am drwydded forol ar gyfer penderfyniad Asedau Trosglwyddo yn rhedeg yn gyfochrog â chais y DCO. Er bod meysydd sy’n gorgyffwrdd mae gan y ddau broses ar wahân.

Isod mae'r ffurflen gais am drwydded forol, llythyr eglurhaol am y gais, a rhestr dogfennau. Mae'r holl ddogfennau a gyflwynwyd fel rhan o'r gais ar gael ar ein rhestr gyhoeddus