Trosolwg o'r ymgynghoriad
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais am drwydded amgylcheddol bwrpasol newydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, i weithredu cyfleuster newydd ar gyfer crynhoi deunyddiau nad ydynt yn beryglus o gasgliadau wrth ymyl y ffordd. Maent yn cynnig derbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell y flwyddyn o wastraff nad yw'n beryglus, gydag uchafswm o 425 tunnell ar y safle ar unrhyw un adeg, cyn cael ei drosglwyddo oddi ar y safle i'w adfer ymhellach neu ei waredu.
Cafodd cais blaenorol gan Gyngor Sir Powys (PAN-013001) ei wrthod yn gynharach eleni. Darllenwch pam y gwrthodwyd y cais.
Mae'r cais newydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i'w hasesu. Darllenwch amlinelliad o'r wybodaeth ychwanegol a ddarperir gan Gyngor Sir Powys.
Yr unig ‘driniaeth’ fyddai crynhoi deunyddiau a fyddai’n cyrraedd y safle heb gael eu didoli, gan olygu na fyddai didoli na gwahanu gwastraff ar y safle.
Gellir gweld manylion llawn y cais yn y dogfennau cais.
Dangosir lleoliad y cyfleuster arfaethedig ar y map isod.
Pam ein bod yn cynnal ymgynghoriad
Rydym yn deall bod y cais am y drwydded hon o ddiddordeb arbennig i'r cyhoedd a'r gymuned leol, felly ystyrir y cais hwn yn un o 'ddiddordeb mawr i’r cyhoedd'.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymgynghori â'r cyhoedd ar geisiadau am drwyddedau pwrpasol newydd ar gyfer cyfleusterau gwastraff. Os yw'r ymgeisydd yn gallu bodloni’r gofynion cyfreithiol, rhaid i ni gyhoeddi'r drwydded. Mae hyn yn golygu, yn gyfreithiol, nad ydym yn gallu gwrthod trwydded ar sail gwrthwynebiad lleol yn unig os yw'r holl ofynion cyfreithiol wedi cael eu bodloni.
Dyma'ch cyfle i weld y cais a'r dogfennau ategol, ac ymateb i'n hymgynghoriad gan roi eich sylwadau arnynt.
Gallwch edrych ar y dogfennau cais yn rhad ac am ddim ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.
Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho cymwysiadau meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein – er enghraifft, os nad yw eich system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, gallwch ofyn am gopi o'r cais gennym ni. Sylwch y gall ceisiadau gymryd amser i'w prosesu a gallai fod tâl am ddarparu copïau caled o'r cais.
Ystyriwch y wybodaeth ganlynol cyn ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae ein datganiad cyfranogiad y cyhoedd yn crynhoi ein cylch gwaith rheoliadol, sef yr hyn y gallwn ei ystyried fel rhan o'n penderfyniad, a'r hyn na allwn ei ystyried.
Gallwn ystyried y canlynol, gan eu bod o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol:
Ni allwn ystyried y canlynol, gan nad ydynt o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol:
Nid oes gennym ymgyngoreion statudol, ond yn hytrach rydym yn ymgynghori â sefydliadau a chyrff arbenigol eraill yn unol â'n cytundebau gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod wedi ystyried unrhyw risgiau amgylcheddol. Ar gyfer y cais hwn, rydym wedi ymgynghori â'r sefydliadau canlynol:
Efallai y byddwn hefyd yn ymgynghori â sefydliadau eraill os ydym yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol yn ystod y penderfyniad.
Byddwn yn cynnal sesiynau holi ac ateb rhithwir un i un ar 27th Hydref, lle gallwn ateb cwestiynau a allai fod gennych am y canlynol:
- y cais
- ein proses gwneud penderfyniadau ar drwyddedau
- sut y gallwch chi gyflwyno'ch barn i ni trwy ein hwb ymgynghori
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 1pm a 7pm. Os hoffech chi archebu slot 20 munud gyda'n tîm, e-bostiwch permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn hanner dydd, 21st Hydref, fel y gallwn drefnu hyn gyda chi.
Bydd ceisiadau'n cael eu hateb yn y drefn y byddwn yn eu derbyn. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer ceisiadau arbennig cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosibl.
Share
Share on Twitter Share on Facebook