Cyfleuster Adfer Ynni Parc Adfer – Ymgynghoriad Cais Cychwynnol

Trosolwg

Mae Enfinium Parc Adfer Operations Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Cyfleuster Adfer Ynni Parc Adfer (rhif trwydded EPR/AB3092CV).

Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rydym yn ceisio sylwadau ar y cais hwn.

Manylion y cais

Cyfeirnod y Cais: PAN-030272

Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa

Adran 5.1: Rheoli gwastraff - Rhan A(1) (a) Llosgi gwastraff amheryglus mewn gwaith llosgi gwastraff neu waith cyd-losgi gwastraff sydd â chapasiti sy'n fwy na 3 tunnell yr awr.

Adran 5.4: Gwaredu, adfer neu gymysgedd o waredu ac adfer gwastraff amheryglus – Rhan A(1) (a) Adfer neu gymysgedd o adfer a gwaredu gwastraff nad yw'n beryglus gyda chapasiti sy'n fwy na 75 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os treulio anaerobig yw'r unig weithgaredd trin gwastraff) sy'n cynnwys un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol a gwmpesir gan Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994 (iii) trin slag a lludw.

Adran 6.10: Dal a Storio Carbon — Rhan A (1) (a) Dal ffrydiau carbon deuocsid o weithfa at ddibenion storio daearegol yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 a deddfwriaeth ddomestig arall sy'n deillio o'r UE a drawsddododd Gyfarwyddeb 2009/31/EC ar storio carbon deuocsid daearegol mewn perthynas â Chymru a Lloegr.

Cyfarpar Hylosgi Canolig - Atodlen 25A — Cyfarpar Hylosgi Canolig a Generaduron Penodedig sydd wedi'u heithrio.

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ffordd Weighbridge, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2GY

Ar hyn o bryd mae'r drwydded yn caniatáu llosgi gwastraff trefol, diwydiannol a masnachol mewn llosgydd sy'n defnyddio gwres a phŵer cyfunedig.

Diben y cais hwn yw ychwanegu gwaith dal carbon deuocsid (CCP) ar ôl hylosgi at y nwy gwacáu o'r llosgydd i leihau allyriadau carbon deuocsid atmosfferig. Bydd y CCP yn defnyddio hydoddydd sy'n seiliedig ar amin i amsugno carbon deuocsid (CO2) o'r nwyon gwacáu. Bydd y carbon deuocsid a fydd yn cael ei ddal yn cael ei gludo oddi ar y safle i'w storio’n ddaearegol.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r weithfa arfaethedig, y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk .

Pam y mae eich barn chi yn bwysig

Rydym eisiau gwneud y penderfyniad gorau wrth drwyddedu. Mae gwrando ar farn pobl eraill yn ein helpu i ystyried pryderon, neu ffactorau amgylcheddol lleol, nad ydym efallai yn ymwybodol ohonynt fel arall.

Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cais ac rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad ar y cais am drwydded. 

Gallwch gynnig sylwadau ar y cais trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

Ymgynghori Ar-lein

Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 26 Meh 2026. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.

Yn agor 26 Meh 2026

Yn cau 24 Gorff 2026

Ardaloedd

  • Connah's Quay Wepre

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Permits